Y cynhyrchiad cyntaf i mi ei weld oedd Gwyn, drama i blant gan Gwmni’r Frân Wen. Roedd Theatr y Maes yn llawn dop o blant a rhieni (a fi a ’nghariad) yn mwynhau perfformiadau annwyl Bryn Fôn a Rhodri Siôn fel Titrwm a Tatrwm. Dau greadur wedi eu gwisgo o’u corun i’w sawdl mewn gwyn yw Titrwm a Tatrwm sy’n cyflawni gorchwylion beunyddiol er mwyn gwarchod wyau gwynion mewn byd claerwyn. Daw tro ar fyd pan lania wy coch ynghanol yr ysblander gwyn:
TATRWM: Wy!
TITRWM: Wy coch!
TATRWM: Mae o’n wy!
TITRWM: Ond mae o’n goch... rho fo yn y bin.
Drama tu hwnt o hoffus oedd hon gyda neges foesol glir ar ei diwedd; ac roedd y set yn werth ei gweld.
Un o’r profiadau difyrraf a gefais i eleni oedd cael mynd am drip a drefnwyd gan y Theatr Genedlaethol i ymweld â theatr Garthewin lle perfformiwyd rhai o ddramâu Saunders Lewis am y tro cyntaf. Cawsom ein tywys yno gan Hazel Walford Davies, sy’n arbenigwr ar Garthewin a chysylltiad Saunders â’r theatr.
Saif y theatr mewn sgubor yn libart y ty Sioraidd trawiadol a fu’n gartref i deulu Wynniaid Garthewin. Mae’r theatr a addaswyd gan y pensaer Thomos Taig yn hynod drawiadol ac effeithiol, ac mae’r bwa o flaen y llwyfan yn gwneud i’r lle ymdebygu yn fwy i eglwys na sgubor. Ers i deulu’r Wynniaid werthu’r lle yn 1996, mae Garthewin wedi bod yn gartref i ddyn o’r enw Michael Grimes. Bu Mr Grimes yn ddigon caredig i ddangos y ty a’r gerddi i’r criw o ddeg ar hugain ohonom a fu’n ddigon lwcus i gael tocyn i’r daith. Wrth i ni gerdded drwy ystafelloedd moethus Garthewin, ni allwn ond dychmygu y byddai Saunders wedi bod wrth ei fodd yno, fel rhyw ail Ddafydd Nanmor yn cael profi haelioni ei noddwr Robert Wynne.
Wedi inni ymgasglu yn y theatr fach unigryw, aeth John Ogwen ar y llwyfan i ddarllen awdl foliant Saunders Lewis i Robert Wynne. Awdl sy’n batrwm o ganu mawl yr Oesoedd Canol, ond un sydd hefyd yn drymlwythog o eironi, gan fod Robert Wynne, cyfaill a noddwr Saunders, i bob pwrpas yn ddi-Gymraeg! Cawsom ein diddanu wedyn gan Gaynor Morgan Rees ac Alun Elidyr yn cyflwyno detholiadau o’r ddrama Blodeuwedd, ac yna gan John Ogwen a Maureen Rhys yn cyflwyno darnau o Siwan. Roedd yn brofiad difyr gweld y ddwy ddrama yn cael eu cyflwyno mewn awyrgylch mor ddi-ffrils, yn enwedig a hithau ond ychydig wythnosau ers i mi weld cynhyrchiad ysgubol y Theatr Genedlaethol o Blodeuwedd yn Nhomen y Mur. Mae dramâu Saunders yn greadigaethau mor gywrain, a chafodd y gynulleidfa astud amser i werthfawrogi cyfoeth ei iaith a chadernid ei gymeriadau. Daeth y noson i ben (yn union fel y byddai wedi gwneud ar ddiwedd un o ddramâu Saunders yn y pedwardegau) gyda’r gynulleidfa yn cael ei chymell i ganu ‘Mae Hen Wlad Fy Nhadau’. Bu’n noson ryfedd, ond un gofiadwy.
Yng Ngarthewin, cawsom gip ar Saunders Lewis ar ei waethaf: Saunders y snob anfaddeuol a roddodd ei holl ffydd yng ngwerth achau, pendefigaeth a moethau bywyd. Ond yng Ngarthewin hefyd, gwelsom Saunders ar ei orau: Saunders y dramodydd praff a roddodd anadl einioes i Flodeuwedd, Lleu Llaw Gyffes, Siwan a Llywelyn Fawr. Er bod Garthewin, ac yn ei sgil, rhan bwysig o hanes ein diwylliant bellach, ysywaeth, mewn dwylo preifat, erys y dramâu, a’r rheini yn y pen draw yw gwaddol bwysicaf Saunders.
Roedd gan ysbryd Kate Roberts bresenoldeb amlwg yn y brifwyl eleni, a pha ryfedd a hithau wedi treulio rhan helaeth o’i hoes yn byw ac yn gweithio yn Ninbych. Yn Theatr Twm o’r Nant (a agorwyd gan Kate Roberts gyda llaw) bu Theatr Bara Caws yn perfformio dwy ddrama wedi eu hysbrydoli gan Frenhines ein Llên. Mae Cyfaill yn ddrama newydd gan Francesca Rhydderch, sy’n darlunio cyfnod ym mywyd Kate yn fuan ar ôl iddi golli ei gwr. Yn y cyfnod hwn dechreuodd Kate lythyru gyda gwraig o Hwngari; seicolegydd o Iddewes, a’i merch, a lwyddodd i oroesi’r Ail Ryfel Byd. Drama am alar yw hon, a gwelwn Kate yn graddol ymdopi gyda’i cholled drwy ailddechrau ysgrifennu o ddifrif, wedi cyfnod creadigol hesb. Mae yma ymdrech i ddangos Kate fel gwraig deimladwy a chydymdeimladol a hynny’n groes i’r ddelwedd boblogaidd ohoni fel gwraig ddigon surbwch ac anodd, ac mae hynny i’w ganmol. Serch hynny, er gwaethaf y testun difyr, ni chefais fy nghyfareddu gan y ddrama. Mae Francesca Rhydderch yn awdurdod ar waith Kate Roberts, ac eto roedd yn teimlo fel pe bai rhywbeth ar goll o’r ddrama. Teimlais drwy gydol Cyfaill mai yn ei pherthynas a’i gwr yr oedd gwir ddrama bywyd Kate, a bod y stori wedi ei dechrau’n rhy hwyr. Difyr fydd gweld beth fydd ymateb y cynulleidfaoedd pan aiff y ddrama ar daith.
Fe fywiogodd cynulleidfa Theatr Twm o’r Nant yn arw gydag ail berfformiad y noson, sef addasiad Manon Wyn Williams o Te yn y Grug gan Kate Roberts. Cafwyd portread annwyl o Begw y ferch fach gan Fflur Medi Owen, a phortread egnïol o Winni Ffinni Hadog wyllt gan Manon Wilkinson. Roedd addasiad llwyfan Manon Wyn Williams o waith Kate Roberts yn ffyddlon ac yn effeithiol – a daeth cymeriadau cryfion Te yn y Grug a’u sylwebaeth gymdeithasol ddeifiol yn fyw yn y cynhyrchiad hwn. Gallaf dystio nad oes golygfa fawr fwy torcalonnus na gwylio merch wyth oed yn gweld ei jeli yn cael ei larpio yn rheibus gan ferch ‘sy’n llawer hyn na’i hoed’! Er gwaetha’r ffaith fod Winni yn wyllt ac yn lleidr jeli, mae Begw yn gwirioni arni gan ei bod yn mor hy’ a phendant ei barn ar bopeth ac felly ninnau gynulleidfa, diolch i berfformiad gwych yr actores. Dewis saff i Bara Caws oedd llwyfannu rhywbeth mor hen-ffasiwn ag addasiad o stori fer gan Kate Roberts, ond does yna affliw o ddim byd yn bod ar hynny. Ychydig iawn o gynyrchiadau all frolio’r gallu i ddiddanu, i ddiwyllio a chyffwrdd â chalon cynulleidfa, ac mae Te yn y Grug yn llwyddo i fodloni pob un o’r meini prawf hynny. Dyma gynhyrchiad sy’n werth ei weld.
Os wnaethoch chi fentro i’r Lle Celf ar y maes eleni, byddwch yn siwr o fod wedi sylwi ar yr arddangosfa yn coffáu ysbyty meddwl Dinbych. Yno hefyd y dewisodd Cwmni’r Frân Wen lwyfannu Anweledig, monolog newydd gan Aled Jones Williams am wraig sy’n dioddef o iselder ysbryd ac sy’n cael ei hanfon i’r ysbyty meddwl. Nid yw salwch meddwl yn thema ddieithr i lenyddiaeth Gymraeg, ond mae Anweledig yn ymdriniaeth ffres a dadlennol o wewyr unigolyn sy’n teimlo’r diddymdra eithaf. Mae Aled Jones Williams yn feistr ar greu troeon ymadrodd a delweddau trawiadol, ac mae Anweledig yn frith ohonynt. Disgrifia’r wraig sut mae iselder yn debyg i ‘Ista mewn pictiwrs yn y tywyllwch ar dy ben dy hun’. Rhoddodd Ffion Dafis berfformiad ysgubol er gwaetha’r ffaith ei bod yn gorfod cystadlu gyda swn prysurdeb gweddill y Lle Celf. Mae Aled Jones Williams yn bwriadu ymestyn y fonolog yn ddrama cyn mynd â hi ar daith. Ewch i’w gweld. Mae hi’n rhagorol.
Yn ystod yr wythnos bu’r Theatr Genedlaethol yn llwyfannu perfformiadau o’u cynhyrchiad diweddaraf, Rhwydo/Vangst. Prosiect amlieithog yw hwn gan Roos Van Geffen, cyfarwyddwraig o’r Iseldiroedd, sydd yn ymateb i’n hofnau a’n dyheadau dyfnaf ni. Er mor ddifyr yw’r syniad o greu drama fel hon, yn seiliedig ar sylwadau a theimladau pobl go iawn, ac er i mi i fynd i mewn i’r cwt mawr glas ar y Maes yn disgwyl cael fy mhlesio, rhaid i mi gyfaddef mai fy siomi braidd a gefais. Mae’n amlwg o’r ymateb fod y ddrama wedi hollti barn ei chynulleidfa, gyda rhai wir wedi eu cyffwrdd ac eraill fel finnau yn crafu eu pennau. Ond onid peth i’w ddisgwyl ac yn wir peth iach yw gwahaniaeth barn fel hyn, yn enwedig gyda’r Theatr Genedlaethol wedi llwyfannu amrediad mor eang o gynyrchiadau yn ystod y misoedd diwethaf?
Ar y dydd Mercher cefais gyfle i weld Cwmni’r Frenigen yn cyflwyno Carnifal, drama Lydewig o 1938 gan Roparz Hemon. Mae’r ddrama wreiddiol wedi’i lleoli yng Nghymru ac yn enghraifft brin o ymateb diwylliant arall i fursendod a phiwritaniaeth remp y Cymry. Roedd hwn yn gynhyrchiad cyffrous a bywiog gyda defnydd da o gerddoriaeth, masgiau a pherfformiadau egnïol gan y cast ifanc ond dawnus o Aberystwyth.
Ar y nos Iau bûm yn gwylio cynhyrchiad Theatr Fach Llangefni o Genod y Calendr. Roedd hi’n sicr yn werth ciwio am dri chwarter awr er mwyn sicrhau mynediad, ac rwy’n siwr fod y bonllefau o chwerthin i’w clywed ar hyd y Maes. Mae addasiad Marlyn Samuel yn dra effeithiol ac roedd y gynulleidfa yn chwerthin a chrïo bob yn ail. Mae’n wych gweld cwmni amatur yn llwyddo i lwyfannu cynhyrchiad ardderchog o ddrama gyflawn gyda chast mawr, defnydd effeithiol o lwyfan, gwisgoedd a phrops (roedd y props yn hanfodol!). Llongyfarchiadau iddynt.
Llongyfarchiadau hefyd i Glesni Haf Jones am gipio’r Fedal Ddrama eleni. Braf oedd gweld rhywun ifanc cymharol leol yn cipio’r wobr gyda chryn glod gan y beirniaid. Edrychwn ymlaen yn arw at gael gweld y gwaith buddugol ar lwyfan yn fuan. Trueni na fu teilyngdod yn nifer o gystadlaethau eraill yr Adran Ddrama.
Do, bu’n flwyddyn dda iawn arall i’r theatr yn yr Eisteddfod, a chefais flas ar bron bopeth a welais. A ydi hi’n ormod dweud rhywbeth mor chwyldroadol â bod theatr Gymraeg (er gwaethaf yr holl flynyddoedd o weld bai a rhincian dannedd) mewn cyflwr cymharol iach? Atebion ar gefn cerdyn post os gwelwch yn dda.
________________
Bydd cynyrchiadau Theatr Bara Caws, Cyfaill a Te yn y Grug, yn teithio rhwng 9 Medi a 5 Hydref. Am fanylion ewch i wefan y cwmni www.theatrbaracaws.com
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

