Er ei fod wedi bod yn ofalus i beidio â datgan cefnogaeth ar goedd i luoedd Franco – yr oedd y Blaid wedi coleddu agwedd niwtral tuag at Sbaen – mae’n ddigon posibl fod Rhodri Morgan yn gywir ynglyn ag agwedd breifat Lewis tuag at y gyflafan. Yn sgil y pogroms gwrth-glerigaidd a nodweddodd ddyddiau cynnar yr ymladd, yr oedd cryn gydymdeimlad at luoedd Franco ymhlith Catholigion dosbarth gweithiol yng Nghymru. Os oedd hynny’n wir, hyd yn oed yn achos y rhai a oedd yn tueddu i uniaethu â’r chwith, yna hawdd credu fod ceidwadwr – c fach – a gwrth-Farcsydd rhonc fel Lewis yn rhannu’r farn honno.
Y broblem hefo sylwadau ein cyn-Brif Weinidog yw’r moesoli sydd ymhlyg ynddynt. Mae Morgan am inni gredu y gellir rhannu agweddau’r cyfnod mewn modd twt a syml. Megis rhyw ffilm gowboi o’r 1950au, ymddengys ei fod yn gweld dihiryn mewn het ddu (Lewis) yn cael ei herio a’i drechu gan arwyr gwrth-Saundersaidd yn eu hetiau gwynion. Ymhlith yr olaf fe geir T.J. Morgan ac, yn ddiau, ei gydweithiwr clòs, W.J. Gruffydd.
Mewn gwirionedd, fodd bynnag, roedd pethau’n fwy cymhleth o lawer, gyda W.J. Gruffydd yn enghraifft dda o’r cymhlethdod hwnnw. Bu’r sylwadau gwrth-Semitaidd yng ngwaith Saunders Lewis yn destun trafod a beirniadu ers blynyddoedd. A hynny’n gwbl briodol. Ond gadewch i ni beidio â’n twyllo ein hunain chwaith. Roedd gwrth-Semitiaeth Lewis – lle cyd-gerddai rhagfarn hyll law yn llaw â thuedd philo-Semitaidd i ddyrchafu Iddewon – yn nodweddiadol iawn o Gymru a Phrydain yng nghanol yr ugeinfed ganrif. Yn wir, fe gafwyd gan Gruffydd ei hun yn 1941 ymosodiad eithriadol o annymunol ar Iddewon. Roedd o’n haeru mai nhw oedd awduron eu tynged eu hunain ar gyfandir Ewrop. Awgrymai mai tebyg fyddai eu ffawd yng Nghymru a Lloegr pe na baent yn rhoi heibio ‘eu hen ddull traddodiadol o ymgyfoethogi ar wendidau’r genedl ddyn’. Yr oedd Gruffydd hefyd yn amrwd, eithafol o wrth-Gatholig. Roedd y rhagfarn honno’n rhan ganolog o ymgyrch isetholiad Prifysgol Cymru yn 1943 pan wthiwyd Gruffydd i’r maes i rwystro Lewis.
Mae pob rheswm dros gredu bod agweddau T.J. Morgan tuag at Iddewon a Chatholigion yn fwy goleuedig o lawer nag agweddau W.J. Gruffydd. Erys yn ffaith, fodd bynnag, fod Morgan wedi gweithredu fel asiant i Gruffydd yn isetholiad 1943. A daeth, ymhen y rhawg, yn gyd-olygydd cylchgrawn Y Llenor gydag ef. Hyd yn oed os nad oedd yn rhannu safbwyntiau Gruffydd ar y materion hyn, ymddengys na tharfodd hynny ddim ar ei gefnogaeth iddo.
O gofio cyd-destun yr isetholiad, a siarad yn bersonol, ychydig iawn o gydymdeimlad sydd gennyf tuag at agwedd Lewis parthed yr Ail Ryfel Byd. Gruffydd a Morgan oedd yn iawn. Ond gadewch i ni beidio â’n twyllo ein hunain y gellir didoli’r defaid oddi wrth y geifr mewn unrhyw fodd syml. Bron i dri chwarter canrif ers y digwyddiadau dan sylw, onid yw’n hen bryd inni fynd i’r afael â realiti cymhleth y cyfnod yn hytrach na bodloni ar ryw agwedd ddu-a-gwyn naïf ac annigonol o’r dyddiau a fu?
A bod yn deg â Rhodri Morgan, efallai na ellir – yn rhesymol – ddisgwyl hynny ganddo ef. Rydym i gyd yn anwylo ein chwedlau teuluol ac yn naturiol ddigon, gwyn y gwêl... Ar ben hynny, bu’n amlwg ers tro fod Rhodri Morgan yn ystyried ei fod wedi cynnal y frwydr deuluol yn erbyn Saundersiaeth a’i hetifeddion. Dwn i ddim amdanoch chi, ond rwy’n gweld rhywbeth yn ddigon dynol ac eithaf hoffus yn hynny. Hyd yn oed os bu’n rhaid i ambell newyddiadurwr gael gwers hanes sydyn cyn deall pam fod y Prif Weinidog yn cyfeirio at isetholiad a gynhaliwyd saith deg o flynyddoedd ynghynt wrth egluro arwyddocâd buddugoliaeth Llafur yn etholiad Cynulliad 2003!
Nid yw Rhodri Morgan yn honni bod yn hanesydd proffesiynol. Ond, ysywaeth, pan ddaw’n fater o drafod Saunders Lewis, ymddengys fod hyd yn oed ysgolheigion haeddiannol uchel eu parch yn bwrw heibio egwyddorion sylfaenol eu crefft yn eu gorawydd i’w golbio.
Os am dystiolaeth mynnwch gopi o rifyn cyfredol Agenda, cylchgrawn y Sefydliad Materion Cymreig. Ynddo mae un o brif haneswyr y genedl yn traethu ei farn am Saunders Lewis. Mewn cwta dri pharagraff gwelir yr Arglwydd Llafur, K.O. Morgan, yn mynd ati i ddarnio’n llwyr safbwyntiau a syniadau Lewis. Hatchet job yw’r ymadrodd Saesneg am ymosodiad o’r fath. Cyfunir camgymeriadau ffeithiol elfennol – yn 1926 y daeth Lewis yn Llywydd y Blaid nid 1925, ac ef oedd yr ail ac nid y cyntaf i ymgymryd â’r swydd – gydag ailadrodd hen haeriadau megis honno a glywyd yn fynych ers o leiaf 1942 fod gwaith Charles Maurras (Action Française) yn destun ‘edmygedd angerddol’ i Lewis. Mae hynny’n ddigon gwir am Ambrose Bebb ond nid am Saunders Lewis. Gan rwygo geiriau o unrhyw fath o gyd-destun hanesyddol a thestunol, eir ymlaen i gyhuddo Lewis o gydymdeimlo â gwladwriaeth Mussolini yn ogystal â Petain a Vichy.
‘Whether Lewis was himself a fascist has occasioned much debate. On balance, I do not believe he was.’ Dyna ddyfarniad prif hanesydd Cymru’r ugeinfed ganrif. Gyda’r ‘on balance’ yna’n gwbl feistrolgar. Mae’r syniad y gellir cyfrif Saunders Lewis yn Ffasgydd o fath yn y byd yn abswrd. Ond mae Ken Morgan yn llwyddo i roi’r argraff o bwyso a mesur ystyrlon er mai’r hyn a wna mewn gwirionedd yw mynd ati i gollfarnu Saunders Lewis. A hynny’n llwyr.
Gadewch i ni fod yn glir, os ydym yn dal fod Ffasgaeth yn derm ystyrlon sy’n cyfeirio at ideoleg a threfn wleidyddol benodol, yna lol botes maip yw galw Saunders Lewis yn Ffasgydd. Ond yn achos Saunders, ymddengys nad yw’r safonau beirniadol arferol yn berthnasol. Ceir rhwydd hynt a thragwyddol heol i’w bardduo gan droi un o gymeriadau mwyaf diddorol a gwreiddiol – os ffaeledig – Cymru’r ugeinfed ganrif yn gocyn hitio un dimensiwn, diddim.
Yn nhudalennau’r Blaid Ffasgaidd yng Nghymru: Plaid Cymru a’r Cyhuddiad o Ffasgaeth awgrymais y gellir ystyried y modd yr ymdrinnir â syniadau ac etifeddiaeth Saunders Lewis fel ffon fesur cyflwr ein bywyd deallusol cenedlaethol. Os yw hynny’n gywir, mae tystiolaeth yr wythnosau diwethaf yn cadarnhau unwaith yn rhagor faint o waith aeddfedu a phrifio sydd gennym fel cenedl.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
