Thema dywyll Thema golau

Sgwrs dau ffrind gerbron miloedd

Richard Wyn Jones a Jerry Hunter Richard Wyn Jones a Jerry Hunter
Richard Wyn Jones a Jerry Hunter. Llun: Richard Martin

Ar ôl ennill gwobr arian yn y British Podcast Awards yn 2023, mae’r podlediad Yr Hen Iaith, sy’n trin a thrafod llenyddiaeth Gymraeg, wedi’i enwebu eto eleni. Bydd y seremoni wobrwyo yn stadiwm yr O2 yn Llundain ddechrau Hydref. Wrth edrych ymlaen at hynny, un o ddau gyflwynydd y podlediad sy’n dweud sut y daeth i fod a magu cynulleidfa.

Dylai podlediad da fod fel sgwrs rhwng ffrindiau, meddir. Nid oeddwn i’n gwybod hynny pan ddechreuais gyd-gyflwyno Yr Hen Iaith ddwy flynedd a hanner yn ôl, ond roedd fy nghyd-gyflwynydd, Richard Wyn Jones, yn gyfarwydd â hanfod y cyfrwng pan awgrymodd y syniad. Deilliodd y podlediad o’n cyfeillgarwch; mae’n estyniad ohono – ac yn estyniad rhyfeddol o naturiol, ar un wedd. Tarddodd o’r tynnu coes a fu rhyngom am ddegawdau, a minnau’n edliw iddo bob hyn a hyn nad oedd wedi darllen rhyw glasur Cymraeg neu’i gilydd. Bu Richard yn fy ngheryddu innau’n achlysurol am beidio ag ysgrifennu’r math o gyflwyniad i lenyddiaeth Gymraeg yr hoffai ef ei ddarllen. Daeth tro ar y pryfocio cyfarwydd pan ddywedodd rywbeth fel, ‘os nad wyt am sgwennu’r llyfr yna i mi, beth am ei wneud ar ffurf podlediad?’ Cyn i mi orffen lleisio pryderon am yr agweddau technegol, ychwanegodd, ‘Paid â phoeni, dwi’n nabod yr union foi.’


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Clawr llyfr sy'n cael ei adolygu

Chwarae jazz wrth i’r cysgodion ddwysáu

Ymlaen >
Tudalen o Lyfr Leinster (Leabhar Laighean)

Gweld hen drysor