Fi ydi’r cynta i gytuno fod y gwyliau yn rhy hir – buasai pedair wythnos yn hen ddigon, ac wythnos o wyliau ychwanegol dros y Dolig yn llawer mwy buddiol – ond mae’n hawdd mynd i rigol o tempo byw mwy hamddenol, codi’n hwyr ac ati, ac yn anoddach fyth dod ohono.
Bythefnos i mewn i’r tymor, fodd bynnag, roedd y ddau ohonom wedi ailgydio’n well nag arfer yn ein trefn feunyddiol – neu felly y tybiais, nes i Joel gael un o’i stranciau un noson ar ôl gweld dynes wrth lyw car oedd yn mynd heibio a dyn yn eistedd wrth ei hymyl (mae ganddo wrthynebiad rhywiaethol ac afresymol i ferched yrru pan mae ’na ddynion efo nhw!).
‘Isio i’r dyn ddreifio’r Suzuki, dwi’m isio i’r ddynes ddreifio!’ gwaeddai drosodd a throsodd. A dim ots faint y ceisiwn resymu ag o fod y dyn wedi brifo’i law ac na fedrai yrru (doedd ‘Sgyno fo ddim leisans’ na ‘Mae o wedi cael cwrw’ ddim yn tycio), gwylltio a thantro mwy wnaeth o, gan grafu’i wyneb a’i war a chythru amdana i mewn cynddaredd.
Tydi’r pyliau yma ddim yn digwydd yn aml, diolch byth, a ’dwn i ddim yn iawn beth sy’n eu hachosi. Cyfuniad o flinder a newid patrwm, am wn i, a rhwystredigaeth pan na fedar o reoli pethau (mae pobol awtistig yn control freaks wrth reddf wrth iddyn nhw drio rhoi trefn ar y byd dryslyd o’u cwmpas).
Hwyrach hefyd fod ei ymddygiad yn adwaith i’r ffaith i’w nain gael ei chipio i’r ysbyty y diwrnod y dychwelodd ef i’r ysgol. Nain, sy’n byw drws nesa ac y mae o’n ei gweld bob dydd bron. Nain, sydd byth yn sâl ac yn cadw trefn (neu drio beth bynnag) arnom ni i gyd; yn bresenoldeb sefydlog a dibynadwy yn ei fywyd.
‘Tydi Nain ddim yn mynd i farw,’ meddai pan ddywedais wrtho ei bod wedi mynd i’r ysbyty. ‘Nacdi,’ atebais innau, ond erbyn diwedd yr wythnos doeddwn i ddim mor si?r. Doedd y gwrthfiotigau ddim i’w gweld yn gwella llid yr isgroen ar ei choes; doedd dim awydd bwyd arni (anarferol iawn mewn un mor fwyteig!); roedd hi ar morffin ac ocsigen. Ac eto, pan es i’w gweld gyda’m tad yng nghyfraith, roedd i’w gweld yn ddigon tebol wrth iddi ddwrdio hwnnw am sefyll ar y gwely i osod ei chardiau brysiwch wella ar y bwrdd corc, ac aildrefnu’r dodrefn nes taro’i drip stand a pheri i hwnnw ddechrau bipian.
‘Dwi’n teimlo fel taswn i yn Some Mothers Do Have ’Em,’ meddwn i dan chwerthin. Roedd hi’n dal i giglan am hynny’r noson honno, yn ôl ei mab fenga, oedd efo hi pan ddaeth y meddyg ymgynghorol heibio a threfnu ei bod yn cael ei symud i Gaer am lawdriniaeth ar unwaith. Necrotizing fasciitis oedd arni, sef haint prin a pheryglus sy’n gwneud i’r cnawd fadru gan ymledu a lladd yn gyflym. Meddyliais yn si?r y byddai’n deffro drannoeth wedi colli ei choes, ond arbedwyd hi rhag hynny gan iddyn nhw gael gwared ar y drwg i gyd mewn talpiau o gnawd pydredig. Bydd gwella’n broses araf a phoenus wrth iddi gael grafftiau croen, ond o leia’ mae hi’n fyw ac mewn un darn.
Os daeth rhyw dda allan o hyn, dangos mor agos y gall teulu fod mewn argyfwng ydi hynny, wrth i bawb dynnu’u pwysau a bod yn gefn i’r claf ac i’w gilydd. Gobeithio hefyd y bydd yn rhybudd iddi arafu pan ddaw o’r ysbyty, gan edrych ar ei hôl ei hun yn hytrach na mynd-mynd-mynd dros eraill trwy’r amser.
Bydd Joel yn sicr yn falch o’i gweld yn dod adre, er y bydd yn rhaid iddo yntau sylweddoli nad yw rolau pobol bob amser yn ddigyfnewid: fod merched yn gyrru weithiau; a hogiau weithiau’n tendio ar eu neiniau.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

