Thema dywyll Thema golau

Siwrnai mewn sawl ystyr

Dyma lyfr sy’n olrhain taith yr awdur i’r Unol Daleithiau ar drywydd cysylltiad y Cymry â’r digwyddiad mwyaf trawsnewidiol yn hanes y wlad gan wneud hynny mewn modd gafaelgar, meddai BOB MORRIS.

America a’r Rhyfel Cartref a fi
Huw Griffiths
tt. 252, Carreg Gwalch, £9.99

Llyfr taith ydi’r llyfr hwn, fel yr esbonia’r awdur ar y cychwyn. Ond mae’n llyfr taith ar sawl lefel. Yn gyntaf, mae’n hanes taith astudio gan Huw Griffiths am saith mis yn 1998 trwy rannau dwyreiniol yr Unol Daleithiau. Myfyriwr ymchwil oedd o ar y pryd, yn astudio ar gyfer doethuriaeth ar gyfraniad Cymry America i Ryfel Cartref 1861–65. Ar lefel arall, mae’n hanes taith ddeallusol – proses o ddysgu – a agorodd ei lygaid i agweddau ar hanes y rhyfel nad oedden nhw’n amlwg iddo cyn hynny. Cawn ymweld â’r casgliadau archifyddol prin y bu’n pori ynddyn nhw, ym Mhrifysgol Harvard, yn hen drefi’r ymfudwyr Cymreig yn Steuben ac Utica, ym Mhrifysgol Colgate yn Rochester, yn yr Archifau Cenedlaethol yn Washington, yn Fredericksburg a Philadelphia. Bu’n ymweld â rhai o feysydd y brwydro, hefyd, megis gwarchae hir Petersburg, a chlywn am ran glowyr Pennsylvania yn nhrasiedi ‘Brwydr y Crater’. Yn Steuben, iasol fu ganddo ddysgu am fenter beryglus y Parchedig Robert Everett a’i wraig Elizabeth, y ddau o Gymru, yn defnyddio’u cartref fel ‘gorsaf’ ar yr ‘Underground Railway’ a helpodd gannoedd o gaethweision i ddianc i ryddid.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Un o sefydliadau’r Maes

Ymlaen >

Safiad dau