Thema dywyll Thema golau

Sonant 

I Ka Ching

Mae Siân James yn drysor cenedlaethol ac yn eicon cerddorol amryddawn – a dyma hi nawr yn cychwyn ar antur newydd gyda’i chyfeilles Sioned Webb trwy greu Sonant. A hwythau wedi dod ar draws ei gilydd gyntaf fel plant wrth gystadlu yn erbyn ei gilydd mewn Eisteddfodau, daethant yn gyd‑fyfyrwyr yn yr adran gerdd ym Mangor yn y 1980au cynnar. Deuawd biano yw Sonant, ac am ddeuawd. Mae eu cyd‑chwarae mor gelfydd a chydnaws fel ei bod yn aml yn anodd credu bod dwy ohonynt wrthi. Wrth i’r orig o chwarae sydd ar yr albwm fynd rhagddi clywn seiniau eraill yn ymuno – yn ddrymiau, gitâr, llinynnau a llais – i gyfoethogi’r sylfaen ond heb byth ei foddi, ac mae’r technegau recordio dewinol yn aml yn creu atsain hudolus o amgylch y cyfan.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Morfydd Owen

Ymlaen >

Ffenest