Profiad cyfoethogol oedd ailddarllen y straeon a ddaeth â Kate Roberts i amlygrwydd mewn argraffiad newydd, meddai ANGHARAD PRICE.
O Gors y Bryniau
Kate Roberts
tt. 128, Y Lolfa, £8.99
Ddechrau mis Medi eleni, i ddathlu canmlwyddiant cyhoeddi cyfrol gyhoeddedig gyntaf Kate Roberts yn 1925, lawnsiwyd argraffiad newydd o O Gors y Bryniau yn siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon. Roedd y siop ei hun yn orlawn, ac fel yr oedd yr holl ddathliadau a oedd ynghlwm â’r canmlwyddiant, roedd yn achlysur calonogol. Ddiwedd Medi neilltuwyd penwythnos cyfan i goffáu Kate Roberts yn ei hardal enedigol, gyda drysau ei chartref yng Nghae’r Gors yn agored i’r cyhoedd, ac arddangosfa gyfoethog, yn ogystal â gêm bêl‑droed, sioe gan blant yr ysgol, sioe lwyfan, Kate, a digwyddiadau eraill wedi eu trefnu. Bu’n rhaid gohirio taith gerdded i’r Lôn Wen oherwydd tywydd stormus; ond doedd dim corwynt na glaw allai rwystro’r cyhoedd rhag dod yn eu cannoedd i glwb pêl‑droed y Mountain Rangers lle’r oedd Dafydd Glyn Jones yn darlithio ar ‘hiwmor Kate Roberts’. Roedd y clwb dan ei sang (bu’n rhaid troi pobl i ffwrdd am nad oedd lle), ac roedd gwerthfawrogiad y gynulleidfa’n amlwg gydol y ddarlith ac yn y gymeradwyaeth ar y diwedd. Parhau a wnaeth y dathliadau trwy gydol mis Hydref gyda gigs, darlithoedd a sgyrsiau pellach, yn ogystal â sioeau i blant – cwbl allweddol mewn cyfnod pan nad yw gwaith ‘brenhines ein llên’ mwyach ar feysydd llafur ein hysgolion.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru
