Thema dywyll Thema golau

Ta Ta Meic?

Y ffaith ei fod wedi diflasu ar ferddwr y sîn roc yng Nghymru oedd un o’i resymau dros godi pac yn y 1970au cynnar. Roedd am weld beth oedd yn digwydd yn y dadeni gwerin Celtaidd ym mherson Alan Stivell, a’r gwyliau mawr a’r Fest Noz, a ddenai’r goreuon o blith cerddorion Iwerddon. Dengys ei hunangofiant na lwyddodd i’w sefydlu ei hun i’r fath raddau â rhai o’r cerddorion hynny a ddaeth yn artistiaid rhyngwladol.

Serch yn hytrach na cherddoriaeth sy’n ei ddenu’r tro hwn, gydag awgrym ei fod am dynnu ei yrfa gerddorol i ben ac ailgydio mewn brws paent. Wedi’r cwbl, myfyriwr yng Ngholeg Celf Caerdydd ydoedd pan gyfarfu gyntaf â’i gariad Liz, yn y 1960au cynnar. Hwyrach fod newid trywydd yn benderfyniad doeth, oherwydd anodd fyddai sefydlu gyrfa gerddorol o’r newydd yng Nghanada ac yntau ar drothwy oed yr addewid. Ond pwy a wyr? Digwyddodd pethau rhyfeddach. Cofier am Bob Tai’r Felin yn codi’r to ac yntau yn ei wythdegau.

Priodol y tro hwn felly oedd trefnu ambell gyngerdd ffarwel ar ei gyfer a doedd unman yn fwy cymwys i wneud hynny nag yn Sir Benfro fel y gwnaed yn Neuadd Maenclochog ar nos Sadwrn, 4 Rhagfyr, 2010. Fel y gellid disgwyl roedd y neuadd dan ei sang a Meic wedi’i wahodd, heb yr un cerddor i’w gefnogi na’i rwystro, i ganu ei ganeuon i gyfeiliant ei gitâr acwstig. Felly y bu.

Bu’n gyfle i lawer fwrw trem yn ôl am fod llawer o’i ganeuon wedi bod yn rhan o gefnlen bywydau nifer ohonom. Nid tan tua’r terfyn, pan oedd Meic yn gwahodd ceisiadau a phan ganodd ‘Yr Eryr a’r Golomen’, a gyfansoddwyd gyda chymorth Hywel Gwynfryn, y llwyr sylweddolwyd pa mor gyfoes oedd Meic mewn termau rhyngwladol.

Ie, ar y pryd, roedd y llinell ‘yn Fietnam mae’r bwled, bedd a’r gwaed’ yn golygu ein bod ni’n uniaethu ag ing y miliynau hynny o hipis a gredai y byddai cariad yn newid y byd ac y deuai terfyn ar ryfela unwaith ac am byth. Er bod yr iaith yn wahanol, yr un oedd y dyheadau yn Sain Dunwyd ag yn San Ffransisco. Mor obeithiol ac mor naïf yr oeddem.

Eisoes, yn gynharach, roeddem wedi clywed ‘Tryweryn’ a ‘Cân Walter’ i’n hatgoffa o ddawn y gwr a fedrai drin gitâr yn hytrach na’i strymio ac a fedrai gyfansoddi geiriau cignoeth hefyd. Ac onid oedd yna daerineb ac ymdeimlad o ymbil yn y llais yn ogystal? Ni chyfyngai ei hun i hiraeth meddal.

Roedd y noson wedi agor gyda phaentiad olew o gân sef ‘Merch o’r Ffatri Wlân’ a ninnau’n dychmygu’r nodau sacsoffon yna sydd ar ambell recordiad ohoni yn cyfleu awyrgylch cartrefol a breuddwydiol y gwehyddu. O fewn fawr o dro cafwyd y gân deyrnged i’w gyfaill Llydewig a fu farw mewn damwain ffordd, ‘Erwan’. Roedd y llais yn ceryddu angau, a’r dagrau ar ruddiau’r canwr, wrth feddwl am y Llydâwr yn nhafarn Tir Na Nog, yn ernes o’r hyn a ddelai. Rhyfedd meddwl am yr holl droeon y canwyd y gân hon yn y gorffennol gerbron cynulleidfaoedd a roddai fwy o sylw i’r bar nag i’r datganiad, a’i hergyd, o’r herwydd, yn diflannu i’r diffeithwch.

Troes y llais yn gras wrth iddo ddynwared bechgyn croenddu’r canu blues drwy gyfrwng ‘Gwely Gwag’, y gân yn anad yr un o’i eiddo a ddangosodd bosibiliadau’r Gymraeg rhagor na chyfrwng emynau traddodiadol ac ambell gân werin; deuai tristwch y falen i’r brig.

Cafwyd ‘Dic Penderyn’ a ‘Bobby Sands’, teyrngedau i ferthyron a ddioddefodd gamweddau ac a dalodd yn ddrud trwy ildio eu bywydau i’w gelynion. Cafwyd y glöyn byw o gân ‘Rue St Michel’, y paentiad olew arall hwnnw ‘Dociau Llwyd Caerdydd’ ac, i gwpla’r hanner cyntaf, y lledrithiol ‘Daeth Neb yn Ôl’. Y cwbl yn dangos rhychwant eang Meic fel cyfansoddwr.

Erbyn yr ail hanner roedd y drachtio hael o’r gwin coch wedi gwneud i’r canwr a’i gynulleidfa ymlacio ymhellach ac er gwaethaf presenoldeb bar yn y gornel fe ellid clywed plufyn yn cwympo pan ganwyd ‘Môr o Gariad’. Ai hon fydd ei gân ffarwel derfynol? Tra bydd yna ennill a cholli cariad mae’n debyg mai hon fydd yn glynu.

Cafwyd tynerwch ‘Vic Parker’ a dehongliad o ‘Ysbryd Solfach’ oedd yn cyfleu elfennau sinistr y gân honno wrth i’r geiriau a’r llais cynddeiriog ddisgrifio tranc cymuned o dan droed y cawr. Ymhlith y ceisiadau cafwyd fersiwn o’r ‘Crymych Trip’ wrth i’r llais gyfarth hanes helyntion y ‘peace convoy’ ymhlith y brodorion, a swn y tannau, fel bob amser, mewn cynghanedd â’r mynegiant. Nid yw’r gân mor annhebyg â hynny i rai o gerddi un o gyndeidiau Meic, Brynach Davies, o Lanfyrnach gerllaw, a gaiff y clod o fod y cyntaf i gyfansoddi cerddi tafodieithol yn Sir Benfro. Wedi’r cyfan mae sawl gwedd i’r Fro Gymraeg.

Wrth gyflwyno ‘Be bop a lula’r delyn aur’ gwelwyd tuedd Meic i chwarae ag ambell gân fel petai’n blentyn iddo ac, wrth gwrs, dyna ydyn nhw. Ei eiddo ef ydyn nhw. Mae ganddo’r hawl i wneud fel y mynno â nhw. Ond daeth y cyngerdd i ben nid gyda datganiad o un o’i greadigaethau ei hun ond yn hytrach gân o waith cyfansoddwr anhysbys ond un sydd, yn ôl pob tebyg, â chysylltiad â Sir Benfro, gan mai enw gwreiddiol ‘Ar lan y môr’ oedd ‘Cân Merched Llandudoch’. Roedd hynny’n ernes o’r statws a fydd i ganeuon Meic Stevens ryw ddiwrnod pan gaiff ei ystyried yn gymeriad mytholegol oni bai fod hynny eisoes yn ffaith.

Er na chafwyd yr un encôr, ni ddigiodd neb o blith y gynulleidfa oedd yn cynnwys edmygwyr o bob rhan o Sir Benfro yn ogystal â llefydd megis Rhandir-mwyn, Tresaith a Machynlleth. Digwyddodd, darfu’r Cyngerdd Ffarwel, ond erys y cof ohono ac o’r trwbadwr ar ei eistedd yn anwesu’r tannau a’r geiriau gan ddrachtio diod Bacchws.

Ar y diwedd rhoddwyd darn o garreg las y Preselau i Meic i gofio am ei hen ardal pan fydd yn tramwyo ar draws erwau breision Canada a hynny, pwy a wyr, yn ysbrydoli ambell gân o hiraeth.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

S4C - 'Calon Cenedl'

Ymlaen >

De Affrica: Dagrau Rhyddid