Thema dywyll Thema golau

Taith tair

Rebecca Wyn Kelly, Meinir Mathias a Natalie Chapman Rebecca Wyn Kelly, Meinir Mathias a Natalie Chapman
Mae cyffro newydd yn codi yn y byd celf yng Ngheredigion. Er eu bod yn dilyn trywyddau gwahanol, anghymarus hyd yn oed, mae tri artist o’r sir yn dod ynghyd yn gyson i drafod eu gwaith a rhannu syniadau. Tra mae paentiadau olew hunangofiannol Natalie Chapman yn ymwneud â phrofiadau ei phlentyndod a’i hieuenctid, celfyddyd y tir a materion amgylcheddol yw diddordeb Rebecca Wyn Kelly. Ac mae Meinir Mathias wedi hen sefydlu ei hun gyda’i darluniau o Ferched Beca. Ysgol Gyfun Aberaeron yw’r ddolen gyswllt rhwng y tair. Ar ôl dod i adnabod ei gilydd yn yr ystafell gelf a sefyll arholiadau TGAU gyda’i gilydd yno, pan oedden nhw’n 16 oed gwahanu a dilyn llwybrau gwahanol fu eu hanes. Bellach, wedi seibiant o bron 30 mlynedd, maen nhw wedi ailgydio yn eu cyfeillgarwch ac, yn ddiweddar, wedi cynnal arddangosfa ar y cyd yn Aberteifi i ddathlu eu siwrneiau artistig gwahanol.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Hufen iâ ar y traeth

Llond plât o Geredigion

Ymlaen >
Protestyn erbyn gwyrdroi dyfarniad Roe v Wade

Gwyrdroi Roe v Wade – ymosodiad ar ferched