Portread Bryn Terfel o Tsar trwblus ei feddwl oedd calon y cynhyrchiad rhagorol hwn o opera Mussorgsky yn Covent Garden, meddai SIONED WEBB.
Mae opera Mussorgsky, Boris Godunov (1869), yn dywyll a chignoeth. Mae’n olrhain hanes Boris, sef Tsar Rwsia o 1598 hyd 1605 wedi iddo ymddyrchafu o dan Ivan Arswydus. Mae’n cynnwys cerddoriaeth gyfoethog, nodweddiadol o’r cyfnod Rhamantaidd, ond gyda gwahaniaethau amlwg. Perthynai Mussorgsky i’r Kuchka neu’r ‘Pump’, pum cyfansoddwr oedd am greu cerddoriaeth mewn arddull benodol Rwsiaidd gan ymryddhau o ddylanwad cerddoriaeth Ramantaidd-Glasurol y gorllewin. Alawon iambig a glywir yma, gan ddilyn goslefau’r iaith Rwseg; caiff traddodiadau cerddorol y wlad eu dathlu, ac mae blas cerddoriaeth Eglwys Uniongred Rwsia ar y gwaith. Seiliwyd y libreto ar ddrama o’r un enw gan Pushkin, oedd hefyd yn daer dros amlygu traddodiadau Rwsia.
BORIS GODUNOV
GAN MUSSORGSKY
CYFR. RICHARD JONES
CYFR. CERDD: MARK WIGGLESWORTH
Tŷ Opera Brenhinol, Llundain, 10 Chwefror
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru