Fflamau ar y strydoedd; cerbydau ar dân; dynion ifanc yn taflu cerrig a bomiau petrol tuag at yr heddlu: dydi golygfeydd o’r fath ddim yn anarferol yn Belffast. Ond roedd yna elfennau mwy sinistr, ac o bosib goblygiadau mwy difrifol nag arfer i’r terfysg a ddigwyddodd yno ddechrau mis Mehefin.
Fe gychwynnodd y cwbwl yn hwyr ar nos Lun 8 Mehefin. Ychydig cyn hanner nos, ymddangosodd fideo ar‑lein o’r hyn oedd yn ymdebygu i ddigwyddiad barbaraidd: dyn yn ymosod gyda chyllell ar ddyn arall oedd yn gorwedd oddi tano ar y stryd, rhywle yng ngogledd Belffast. O fewn munudau roedd y fideo yn cael ei rannu ar‑lein ymhell tu hwnt i Ogledd Iwerddon. Un o’r bobl gyntaf i ailbostio’r fideo – am 11.46 p.m. – oedd yr ymgyrchydd adain dde eithafol Tommy Robinson a gyfeiriodd ar yr ymosodwr, oedd yn ymddangos yn groenddu, fel ‘goresgynnydd’. Mae gan Tommy Robinson ddwy filiwn o ddilynwyr ar X ac o fewn ychydig oriau roedd ymosodiad treisgar ar stryd yn Belffast yn cael ei drafod ar‑lein ledled Prydain, Ewrop a’r Unol Daleithiau mewn cyd‑destun gwrthfewnfudo.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru
