Thema dywyll Thema golau

‘Terfysgwyr’ Penyberth?

D.J. Williams, Lewis Valentine a Saunders Lewis. Llun: Plaid Cymru

Naw deg mlynedd yn ôl, ar 13 Hydref 1936, bu’r achos enwog yn erbyn Tri Penyberth yn Llys y Goron Caernarfon. Yma mae cyn‑Farnwr profiadol yn dyfalu beth fyddai tynged y Tri a natur yr achos pe bai’r Tân yn Llŷn wedi digwydd heddiw.

Mewn rhifyn diweddar o’r e‑fwletin Cristnogaeth 21, roedd Angharad Tomos yn ein hatgoffa iddi gael ei charcharu am weithredu ar ran Cymdeithas yr Iaith, a hynny wedi iddi wrthod talu dirwy llys a roddwyd iddi’n wreiddiol am ei throsedd. Diolch y mae hi iddi weithredu yn y ganrif a fu yn hytrach na heddiw, a hynny’n dilyn dyfarniad a dedfryd mewn achos diweddar yn ymwneud â phrotestwyr y mudiad Palestine Action. Derbyniodd y rheini ddedfrydau o flynyddoedd lawer o garchar wedi i’r Llys benderfynu bod natur eu gweithredoedd yn gyfystyr â throsedd derfysgol.

Drwy gyd‑ddigwyddiad rhyfedd, awdur e‑fwletin yr wythnos ganlynol oedd Dafydd Iwan. Fe wnaeth yntau’r pwynt fod troseddau’r protestwyr y cyfeiriodd Angharad atynt yn rhai eithafol – byddai’r Barnwr wedi clywed am isafswm o dros filiwn o bunnoedd o ddifrod (gan beryglu cyflogaeth nifer) ac am ymosodiad oedd yn cynnwys defnyddio arf i achosi niwed corfforol difrifol i ferch a thorri dau asgwrn yn ei chefn. Na, nid achos o ddifrodi oedd yn haeddu dirwy’n unig mo hwn. Terfysgaeth neu beidio, byddai Barnwr wedi dedfrydu yn llym ta beth. Ond mae Dafydd yn gweld yr un bygythiad ag Angharad mewn datblygiadau cyfreithiol sydd, yn eu tyb hwy, yn bygwth defnyddio’r gyfraith at bwrpasau gwleidyddol y wladwriaeth.

Bu newidiadau mewn cyfraith gwlad, yn enwedig rhai yn ymwneud â dedfrydu neu leihau hawliau sylfaenol, yn destun trafodaeth erioed, ond tybed a fu adeg fwy priodol nag eleni i drafodaeth o’r fath godi yma yng Nghymru? Wedi’r cyfan, union 90 mlynedd i’r mis hwn cynhaliwyd y cyntaf o ddau achos yn erlyniad Lewis Valentine, Saunders Lewis a D.J.Williams – Tri Penyberth. Heb unrhyw amheuaeth, oherwydd newidiadau cyfreithiol, dyma achos fyddai’n wahanol mewn sawl ffordd pe’i cynhelid heddiw. Ac fe dybiwn i mai diolch, fel Angharad, y byddai’r Tri yma hefyd nad yn 2026 y cawsant eu herlyn!

Yn ei hanfod, roedd hwn yn achos syml. Ni wadodd yr un o’r Tri mai nhw oedd yn gyfrifol am danio’r fflam a losgodd adeiladau a deunyddiau ar safle fu’n rhan o fferm Penyberth ger Penrhos ym Mhenrhyn Llŷn. Er iddynt ddweud yn glir mai fel unigolion y bu iddynt weithredu, ni wadodd yr un ohonynt chwaith fod eu gweithredoedd yn rhan o ymgyrch Plaid Genedlaethol Cymru i atal trosi’r fan honno yn Ysgol Fomio i’r R.A.F. na’u bod yn aelodau o’r Blaid – roedd Saunders Lewis yn Llywydd arni ers deg mlynedd ar ôl olynu Lewis Valentine yn y swydd. Ar ben y cyfan, am hanner awr wedi dau y bore, wedi cynnau’r tân, roedd y tri wedi cerdded i mewn i Orsaf Heddlu Pwllheli a chyflwyno llythyr, wedi ei arwyddo ganddynt, yn cyfaddef eu gweithredoedd.

O dan y gyfraith heddiw, byddai eu trosedd yn un a gydymffurfiai â’r diffiniad o ‘drosedd derfysgol’ o dan Ddeddf Derfysgaeth 2000, sef ‘gweithred o ddifrod neu drais difrifol gyda’r bwriad o ddylanwadu ar lywodraeth neu hybu achos gwleidyddol’. Ond er eu cyfaddefiad i drosedd a ystyrid mor ddifrifol heddiw, fel yr oedd pethau ar y pryd caniatawyd mechnïaeth ddiamod i’r tri dros yr wythnosau hyd at eu hachos cyntaf yn Llys y Goron Caernarfon (a rhwng hynny a’r prawf ym mis Ionawr 1937 yn Llundain). Heddiw, er bod yr hawl gychwynnol i fechnïaeth yn parhau i fodoli, eithriadol iawn fyddai hi i’r Tri fod wedi cael mechnïaeth mewn achos o’r fath, a phe bai wedi ei ganiatáu byddai’n ddarostyngedig i amodau llym yn cyfyngu ar symudiadau a chysylltiadau.

Elfen arall wedyn fyddai wedi creu naratif cwbl wahanol heddiw fyddai’r cymorth a roddwyd ar y noson gan bedwar aelod arall o’r Blaid, sef J.E. Jones, Victor Hampson Jones, Robin Richards ac O.M. Roberts, a fu’n cyd‑arllwys y tanwydd dros yr eiddo gyda’r diffynyddion gan ddiflannu o’r safle cyn y tanio. Roedd gan Edward Williams, Prif Gwnstabl Heddlu Sir Gaernarfon ar y pryd, amheuon cryf fod y Tri wedi cael cymorth, ond nid oedd ganddo dystiolaeth ddigonol. Heddiw, pe bai tystiolaeth gan yr Heddlu, byddai’r pedwar yn y doc efo’r Tri, wedi eu cyhuddo o fod yn gyd‑gyfrannog yn y drosedd, neu o gynllwynio (o dan Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977), hynny yw, ‘o fod yn rhan o gytundeb, rhwng dau neu ragor, i dorri’r gyfraith gyda’r bwriad fod y drosedd yn cael ei chyflawni’, ac mae un yn euog o gynllwynio hyd yn oed pe na byddai’r hyn a fwriadwyd yn digwydd! Yr un fyddai’r oblygiadau cyfreithiol i rai a roddodd rywfaint o gymorth ymarferol cyn y tanio ei hunan, yn eu plith Elwyn Roberts, R.O.F. Wynne, Mary Grace Gilcriest (mam yng nghyfraith Saunders a fu’n gwnïo sachau i ddal y cyfarpar tanio), a’i wraig Margaret. Roedd eraill, fel W. Ambrose Bebb, y Parchedig J.P. Davies a J.E. Daniel, yn gwbl ymwybodol o fwriadau’r Tri. Da sylwi y gallai eu tynged hwy hefyd fod wedi bod yn wahanol heddiw gan fod methiant i rannu gwybodaeth am weithred derfysgol arfaethedig yn drosedd yn ôl cymal 38B o Ddeddf Derfysgaeth 2000 – trosedd all arwain at hyd at ddeg mlynedd o garchar.


Ymlaen â ni at yr achos yn Llys y Goron Caernarfon. Fu dim gwrthwynebiad ar ran yr amddiffyniad i’r cais i drosglwyddo’r achos yno o’r Llys Ynadon ym Mhwllheli gan mai rheithgor oedd yr union beth yr oedd y Blaid yn ei ddeisyfu. Ar ben hynny, ar y pryd, roedd hawl gan y diffynyddion i wrthwynebu hyd at 12 darpar reithiwr heb orfod rhoi rheswm. (Lleihawyd nifer y gwrthwynebiadau i saith yn 1948 ac i dri yn ddiweddarach, a chofiaf amser fy hun pan sibrydodd fy nghleient yn fy nghlust, ‘dwi ddim isho honna, mae’n edrych fel Tori’, ac fe’i hataliwyd!) Mae’n rhan o’r hanes fod darpar reithwyr yn achos y Tri wedi eu gwrthod gan yr amddiffyniad yn sgil y dybiaeth na allent siarad Cymraeg. Newidiodd y gyfraith yn 1988 ac ers hynny, os yw’r amddiffyniad yn gwrthwynebu pan gyhoeddir enw darpar aelod o reithgor, cynhelir achos rhagbrofol i wrando ar y rhesymau paham ac mae’n rhaid rhoi sail ddilys – a ’tydi ‘edrych fel Tori’ ddim digon da!

O safbwynt y rheithgor hefyd, ar y pryd yn 1936 roedd mantais bosib arall i ddiffynnydd sydd bellach wedi ei dileu. Heddiw, gelwir ar ddarpar aelodau’r rheithgor i lenwi holiadur, un y cytunwyd yn ei gylch fel arfer rhwng yr erlyniad a’r amddiffyniad ac a gymeradwywyd gan y Barnwr. Ynddo rhestrir enw pob tyst, a gofynnir i’r darpar reithwyr ddatgan cysylltiad ag unrhyw sefydliad neu unigolyn a allai fod yn berthnasol yn yr achos. Heddiw, heb amheuaeth, byddai holi am gysylltiad efo’r Blaid, efo enwad y Bedyddwyr (gan fod Valentine yn un o’i weinidogion), efo Mudiadau Heddwch. Nid felly yr oedd hi yn 1936, ac ymysg rheithwyr achos cyntaf y Tri yr oedd John Harlech Jones o Gricieth, un a ddewiswyd yn y pen draw yn ben‑rheithiwr, ac un oedd wedi cael ei rybuddio gan ei wraig (ffrind a chymdoges ar un cyfnod i Samuel a Mary, rhieni Valentine) na fyddai croeso adre iddo pe bai’n gyfrifol am ‘roi bachgen Mary yn y jêl’!

Yn y Gymraeg y cyflwynodd y diffynyddion eu hachos, Saunders Lewis a Lewis Valentine yn eu cynrychioli eu hunain, ond dim ond oherwydd disgresiwn y Barnwr, Syr Wilfrid Hubert Poyer Lewis, y caniatawyd hynny. Roedd o’n Llundeiniwr, ond yn ŵyr i un o gyn‑Esgobion Llandaf. Bu gwelliant o dan Ddeddf Llysoedd Cymru 1942 pan sefydlwyd hawl i roi tystiolaeth yn y Gymraeg ond dim ond o brofi anfantais o beidio cael gwneud. Daeth yr hawl yn absoliwt o dan Ddeddf Iaith 1967. Gyda llaw, oherwydd fod y cyfieithu fesul‑brawddeg mor llafurus, trodd Saunders i annerch y Llys yn Saesneg. Cofiaf fy hunan, mor ddiweddar â’r 1980au, fel y golygai’r busnes o gyfieithu ddim mwy na galw ar weinidog wedi ymddeol i bwyso ar ymyl y doc i gyfieithu’n llafurus. Ni ellir gorbwysleisio’r arbenigedd a’r effeithlonrwydd a gawn ni heddiw gan ein cyfieithwyr ar y pryd.

Mae hynny’n gadael tri gwahaniaeth mawr arall. Er gwaethaf eu cyfaddefiadau, plediodd y diffynyddion gerbron y rheithgor nad oeddynt yn euog oherwydd moesoldeb eu cymhelliad ac anfodlonrwydd Llywodraeth Prydain ‘i wrando ar lais Cymru’. Ni fyddai hynny wedi ei ganiatáu heddiw gan na fyddai yn ‘amddiffyniad’ o dan y gyfraith.

Prif bennawd yr achos cyntaf, wrth gwrs, oedd fod rheithgor Caernarfon wedi dychwelyd i’r Llys wedi dim ond tri chwarter awr ac esbonio eu bod wedi eu hollti yn llwyr ac yn methu cytuno (dangosodd ymchwil Keith Bush CB fod pump ohonynt yn bleidiol i’r Tri). Bryd hynny, roedd yn rhaid cael dyfarniad cwbl gytûn. Heddiw, yn sgil Deddf Cyfiawnder Troseddol 1967, derbynnir dyfarniad mwyafrif o 10 o leiaf, ond ni fyddai Llys yn caniatáu penderfyniad nad yw’n un unfrydol oni bai fod y rheithgor wedi bod wrthi’n trafod am o leiaf ddwy awr (tipyn hwy na thri chwarter awr).

Ac yn olaf, y penderfyniad i symud yr achos i Lundain am yr ail brawf, a arweiniodd at euogfarn a charchar o naw mis i’r Tri. Dim ond mewn achosion eithriadol iawn y gallai hynny ddigwydd heddiw ond – a dyma fynd yn ôl at y tebygolrwydd y byddai achos Tri Penyberth yn cael ei drin fel achos o derfysgaeth heddiw – nid yw’n annichonadwy y câi achos o’r fath ei symud. A gallwn fod yn sicr o un peth, sef y byddai’r dedfrydau wedi eu mesur mewn blynyddoedd heddiw ac nid mewn misoedd.

< Yn ôl

Colli er mwyn ennill

Ymlaen >

Canada’n closio