Thema dywyll Thema golau
Peidiwch â chyffwrdd – adolygiad o arddangosfa Y Lle Celf
‘Ti ar mute’ a chreadigaethau eraill – adolygiad o’r Cyfansoddiadau
Cofio Richard Jones, Ail Symudiad

‘Ti ar mute’ a chreadigaethau eraill – adolygiad o’r Cyfansoddiadau

erthygl-medi-2021-2263-1164 erthygl-medi-2021-2263-1164
Yn anochel, mae’n siŵr gen i na fu cyfrol erioed o’r blaen yn hanes hir y Cyfansoddiadau fu’n adlewyrchiad o’r zeitgeist, neu ysbryd yr oes, i’r un graddau â hon. Efo amrywiad ar eiriau mwyaf cyfarwydd y dwthwn Zoomaidd hwn, ‘Ti ar mute, Llinos’, y mae Menna Machreth yn agor ei stori fer fuddugol. Nid fod Menna’n bodloni’n unig ar gofnodi ein dibyniaeth ar y dechnoleg. Mae tro sobreiddiol a hollol gredadwy (ysywaeth) i’w stori. Yn yr Adran Theatr enillwyd y gystadleuaeth cyfansoddi dwy fonolog gyferbyniol gan Sian Northey a osododd ei darnau yn y dyfodol, y naill yn 2065 a’r llall yn 2101. Er nad wyf yn siŵr o arwyddocâd y dyddiadau, lluniodd fonologau grymus y byddai actor talentog wrth ei bodd, dwi’n siŵr, yn derbyn yr her o fynd ati i’w perfformio. Roedd enillydd y Gadair, Gwenallt Llwyd Ifan, wedi cyflawni’r gamp honno am y tro cyntaf yn Llanbedr-goch yn 1999. ’Dwn i ddim faint o ots fydd ganddo ei bod yn well o lawer gen i’r awdl yn y wers rydd gynganeddol a enillodd iddo’r Gadair eleni.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-medi-2021-2262-1163

Peidiwch â chyffwrdd – adolygiad o arddangosfa Y Lle Celf

Ymlaen >
erthygl-medi-2021-2265-1165

Cofio Richard Jones, Ail Symudiad