Thema dywyll Thema golau

To

To, Meinir Pierce Jones

Newydd gael ei chyhoeddi, mewn pryd ar gyfer Gŵyl Ddewi, mae nofel newydd gan Meinir Pierce Jones, awdur Capten, a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn 2022. Yn wahanol i’r nofel hanesyddol honno, nofel gyfoes yw To, ac mae’r awdur yn ei disgrifio fel ‘chwaer bach ddrygionus y Capten!’

Mae’r nofel yn adrodd stori Tonwen Neli Thomas – TNT neu To i’w ffrindiau. Mae hi’n gymeriad a hanner, ac yn cychwyn cyfnod newydd yn ei hanes fel Swyddog Menter Adfer Tyddyn Betw. Wrth wneud hynny mae’n mynd ar siwrne fydd yn newid ei bywyd.

Gyda chaniatâd y cyhoeddwr, dyma ragflas o’r nofel, sef y bennod gyntaf.

Dwi ddim yn gweithio ar ddydd Gwener, ac eto yma ydw i. Does ’na ddim hanas o fawr o neb arall. Ddaw yna neb bellach chwaith, mae ’mhell wedi amsar cychwyn. Felly mae’n fi, ac wedyn arweinydd gweithredol y prosiect treftadaeth Gwireddu’r Freuddwyd, Gwil Alwyn (un o’r bobol Cyngor ’ma sy’n medru siarad drwy’i geg a’i din), y ddynas bach ’na o Bermo sy’n dod i bob cwarfod, a’r boi cyllid. Yn ista draw oddi wrthan ni a’i laptop o’i flaen. Ac ar hwnnw mae o’n sbio.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

’Laru ar amheuaeth

Ymlaen >

Y dyn, y bardd a’i frwydrau