Thema dywyll Thema golau

Tony Carr (1938–2019)

erthygl-mehefin-2019-1977-910 erthygl-mehefin-2019-1977-910
Treuliodd Antony Carr (‘Tony’ i bawb a oedd yn ei adnabod) ei flynyddoedd cynnar ymhell o Gymru. Yn fuan ar ôl ei eni yng Nghaergybi symudodd i Ynysoedd y Falklands, lle penodwyd ei dad yn swyddog tollau, ac yn y fan honno ac wedyn ar ynys Mauritius y magwyd ef cyn iddo ddychwelyd i’w ynys enedigol ac ymgartrefu ym Miwmares. Yn ddisgybl deunaw oed yn ysgol ramadeg y dref cyrhaeddodd benawdau’r papurau newydd yn 1956 ar ôl ennill y cwis radio ‘Brain of Britain’, gan greu record ddiguro fel pencampwr ifancaf y gystadleuaeth a mynd rhagddo i ddod yn ‘Brain of Brains’ a ‘Top Brain of Britain’. Byddai ei wybodaeth gyffredinol a’i gof rhyfeddol yn nodwedd arno am weddill ei oes. Aeth Tony’n fyfyriwr i Goleg Bangor gan raddio mewn Hanes yn 1959 ac yna gael ei hyfforddi’n archifydd. Penodwyd ef i’w swydd gyntaf yn Archifdy Essex yn Chelmsford (gan guro Stella Rimington, pennaeth MI5 yn ddiweddarach!), ond dychwelodd i Fangor yn 1964 i ddysgu yn yr adran Hanes Cymru. Yno y bu am weddill ei yrfa, gan ddod yn awdurdod mawr ar Gymru’r Oesoedd Canol.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mehefin-2019-1975-909

Troi tlodi’n adloniant

Ymlaen >
erthygl-mehefin-2019-1978-911

Y parhaol a’r amharhaol