Thema dywyll Thema golau

Tony Jones 1939-2026

Tony ac Aloma. Llun: Raymond Daniel

Ym marwolaeth Tony Jones daeth pennod arwyddocaol yn hanes canu poblogaidd Cymraeg i ben. Yma mae un arall o gymeriadau allweddol y byd hwnnw o’r 1960au ymlaen yn rhannu ei atgofion am Tony â ni ac yn craffu ar ei arwyddocâd.

Mr Macaloma


Pan glywais y newydd fod Tony wedi’n gadael, aeth fy meddwl yn ôl i ganol y 1960au pan glywais ei lais am y tro cyntaf ar un o raglenni Gwyn Williams (Gwyn Bangor) ar y radio. Roedd Gwyn yn un da am ddod o hyd i ganeuon a chantorion newydd gwahanol, ac fe’m hudwyd gan y llais tenoraidd swynol yn canu ‘Cloch fach yr eglwys’, yn enwedig o glywed yr hanes y tu ôl i’r canwr a’r gân. Hogyn ifanc oedd y canwr o Ros-meirch ym Môn, ond yn gweithio ar y pryd fel gwas ffarm yn Lloegr, ac wedi dechrau cyfansoddi caneuon am ei hiraeth am Gymru a Môn ac am gwmni ffrindiau Cymraeg. Roedd hyn rai blynyddoedd cyn i Huw a minnau sefydlu cwmni Sain, ond mi wyddwn ym mêr fy esgyrn y prynhawn hwnnw wrth wrando ar y radio y byddai llais y gwas ffarm o Fôn i’w glywed yn fuan ar record. Ond doeddwn i fawr feddwl ’mod i newydd glywed llais un o gantorion mwyaf y byd canu poblogaidd Cymraeg yn yr 20g.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Gari Melville 1955-2025

Ymlaen >

Trech llys barn nag Eisteddfod