Thema dywyll Thema golau

Tregaron yn rocio

Aelodau'r grŵp Adwaith yn perfformio ar lwyfan Maes B Aelodau'r grŵp Adwaith yn perfformio ar lwyfan Maes B
Er bod arlwy’r eisteddfodau AmGen wedi gwneud gwaith neilltuol yn cadw’r fflam ynghyn am ddwy flynedd, credaf fy mod i’n siarad ar ran cenedl gyfan pan ddywedaf ei fod yn llawenydd i’r galon clywed yr hen gyfarchion mewn cae newydd: ‘’Dach chi yma am yr wsos?’, ‘Carafan ’ta pabell?’neu ‘Dwi angen wellingtons?’ A do, cafwyd croeso twymgalon gan Geredigion, croeso a sicrhaodd ein bod yn falch ein bod yn cael cyfle, os caf aralleirio Swnami, i ailuno, ailgydio ac aildanio. Cafwyd arwydd o’r hyn oedd i ddod ar dudalen Instagram S4C ar y dydd Gwener cyntaf gan neb llai na Sage Todz yn ei grys pêl-droed Cymru, wrth iddo ganu ei fersiwn ei hun o ‘Yma o Hyd’ dan lythrennau mawr coch trawiadol yr ŵyl ar faes Tregaron. Dyma fersiwn newydd hypnotig a rhythmig o ail anthem y Gymru newydd gan artist cyffrous sy’n prysur wneud enw iddo’i hun. Ddeuddydd yn ddiweddarach, ar y nos Sul, tro’r fersiwn wreiddiol oedd hi i atseinio dros y wlad. Roedd bod o flaen Llwyfan y Maes ymysg un o dorfeydd mwya’r wythnos yn deimlad anhygoel.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Arddangosfa Y Lle Celf, Eisteddfod 2022 - ymwelydd yn syllu ar baentiad gan Siân Wroe Jones

Hoelio’r llygaid

Ymlaen >
Golygfa coridor ysgol gyda dwy ddisgybl yn cerdded i ffwrdd

Dadlau am addysg rhyw