Dwi’n sgwennu’r golofn hon ar ddiwrnod sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘Sul mawr yr etholiadau’ yn Ewrop. Mae pleidleiswyr wedi bod yn heidio i’r bythau yn Rwmania, Gwlad Pwyl a Phortiwgal. Ac wrth i’r canlyniadau lifo i mewn, hawdd gweld bod Ewrop ar groesffordd.
Mae’r tair gwlad yn unigryw, ond eto mae’r tair gornest etholiadol yn debyg a’r un ydi’r penawdau ar eu diwedd: mae’r asgell dde eithafol, sy’n gwrthwynebu Brwsel a’r Undeb Ewropeaidd, ar garlam. Dwi’n sôn am wleidyddion sydd am roi stop ar gymorth Ewropeaidd i Wcráin, ffrwyno pwerau Brwsel, cau’r ffiniau a hyrwyddo gwerthoedd ceidwadol. Dyma’r rhai sy’n gweld Donald Trump, Viktor Orbán a Giorgia Meloni fel partneriaid a chyfeillion. Ac er mai dim ond agosáu at rym y maen nhw ar hyn o bryd, mae her anferth yn wynebu pleidiau pro-Ewropeaidd os ydyn nhw am ddal eu gafael ar rym.