Llynedd, roedd adroddiad gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu yn galw trais yn erbyn menywod a merched yn argyfwng cenedlaethol. Nodwyd bod 3,000 o droseddau treisgar yn erbyn menywod a merched yn cael eu hadrodd bob dydd, ac y byddai o leiaf un ym mhob deuddeg menyw yn dioddef trosedd o’r math yma rywdro yn ei bywyd. Gwyddom hefyd fod tair dynes bob wythnos yn cael eu lladd gan bartner neu gyn-bartner. Ond o glywed yr holl ddathlu a fu yn sgil dyfarniad y Goruchaf Lys fod y diffiniad o fenyw yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn seiliedig ar ryw biolegol yn hytrach na hunaniaeth ryweddol, hawdd iawn fyddai dod i’r casgliad mai merched trawsryweddol yw’r bygythiad mwyaf i ddiogelwch menywod a merched.
Trin pobol draws fel bwganod
Gwrthdystiad ym Machynlleth – un o nifer a brotestiadau ynglŷn â hawliau pobl drawsryweddol a rhyngryw a alwyd yn sgil dyfarniad y Goruchaf Lys