Mae’r dirywiad sydd i’w weld yng nghanol trefi ac ar y stryd fawr yn un o’r heriau mwyaf i wleidyddion ers tro, a dyna sydd ar feddwl ein colofnydd y mis hwn.
Fe glywais fy nghân bop Nadolig gyntaf eleni ar ddiwrnod Calan Gaeaf a hynny ym marchnad dan do Llanelli. Fe wnes i a’r gŵr ifanc oedd yn gweini arnaf ar y pryd wenu ar ein gilydd mewn ychydig o anghrediniaeth cyn iddo fynd ati yn effeithiol i dorri sleisennau o gig eidion lleol ar fy nghyfer a gosod fy newis wythnosol o bastai a rissoles cartref mewn cwdyn papur brown. Mae mynd i’r farchnad hon i siopa ar bnawn Gwener yn arferiad gennyf ers imi ddechrau gweithio yn y dref dros ugain mlynedd yn ôl ac yn y cyfnod hwn rwyf wedi dod i nabod rhai o’r stondinwyr a gwerthfawrogi eu cynnyrch. Fan hyn rwy’n prynu cig da o ffermydd Sir Gâr; menyn hallt; tatws, pannas ac erfin Cymreig ac o bryd i’w gilydd – ar archeb fel arfer gan aelodau hŷn o’r teulu – gocos o Ben‑clawdd a ffagots o Felin‑foel.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru