Thema dywyll Thema golau

Tro i’r Eidal

Selar Maculan. Llun: Shôn Williams

Mae ein colofnydd wedi bod yn crwydro eto, gan ymweld y tro hwn â hen fusnes teuluol wrth odreon y Dolomiti sy’n cynnig sawl math o win.

Ar ôl gwylio’r Sgarlets yn y niwl (yn llythrennol) oddi cartref yn erbyn Benetton Treviso, fyddech chi ddim yn disgwyl i’ch colofnydd beidio trefnu ymweliad â chynhyrchydd gwin gorau’r ardal cyn hel ei draed am adref. A dyna yw Maculan yn nhref Breganze, sydd rhyw awr o daith o Treviso i gyfeiriad Vicenza. Fe’n croesawyd wrth y drws gan Angela Maculan, wyres y sefydlydd, a hi sy’n gyfrifol am hybu’r gwinoedd yn Ewrop a thu hwnt. Mi wela’i pam – mae’n gyfathrebwr gwych â digon o hiwmor naturiol. Sefydlwyd y cwmni yn 1947, pan oedd llafur yn brin ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Roedd enw da i’r gwinoedd yn lleol, ond fawr mwy na hynny. Dros y blynyddoedd, teithiodd y taid i ardaloedd gorau Ffrainc a dychwelyd efo syniadau a thechnoleg newydd, a’u rhoi ar waith. Edrychai rhai cynhyrchwyr lleol yn syn arno, ond o ganlyniad, plannwyd gwinllannoedd Maculan o’r newydd dros y blynyddoedd gyda grawnwin o dras Ffrengig yn bennaf, ac ambell i ffefryn lleol.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Dyrchafu’r cyffredin a’r cartrefol

Ymlaen >

Diolchgarwch a rhwystredigaeth