Thema dywyll Thema golau

Tro o amgylch Nant Conwy

Pont Lanwrst Pont Lanwrst
Y man cychwyn yw Llanrwst. Yno, tua phymtheg canrif yn ôl, y sefydlwyd cell gan sant o’r enw Gwrwst neu Gwrgwst, gydag eglwys fwy sylweddol o goed a gwiail yn cael ei chodi yn 1170 ar dir a roddwyd, yn ôl traddodiad, gan Rhun ap Nefydd Hardd i geisio iawn am iddo lofruddio Idwal ab Owain Gwynedd trwy ei foddi’n y llyn yn Eryri sy’n dwyn ei enw. Llosgwyd yr eglwys honno i’r llawr yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau. Cwblhawyd yr un bresennol ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1470, ac mae cynlluniau ar waith dros haf 2019 i’w hadnewyddu, ynghyd â Chapel Gwydir, sydd ynghlwm wrthi; yno y mae arch Llywelyn Fawr. Gellid treulio darn da o ddiwrnod yn crwydro Llanrwst, tref gwneuthurwyr telynau a chlociau, tref â thraddodiad hir o argraffu a thref enwogion di-ri o William Salesbury ac Edmwnd Prys ymlaen i Wilym Cowlyd a Threbor Mai a llenorion yr 20g. megis Idwal Jones, Alun T. Lewis, R.E. Jones, T. Glynne Davies a Dafydd Parri – heb sôn am yr Archdderwydd presennol!

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Polb gyda baneri

Rhyddid y wasg yn Awstralia

Ymlaen >
Brecwast yn Llanrwst

Ein lluniaeth a’n llawenydd