Thema dywyll Thema golau

‘True to Nature’

Cofeb Daniel Owen yn nhref Yr Wyddgrug Cofeb Daniel Owen yn nhref Yr Wyddgrug
Wrth feirniadu Gwobr Goffa Daniel Owen, o bob dim, y gwelodd Emyr Llywelyn yn dda i gystwyo a fflangellu’n ddidrugaredd yr hyn a welai ef fel gorddefnydd niweidiol o’r Saesneg yn y nofel a ddyfarnwyd yn gyntaf, gyda chanmoliaeth uchel, gan ei gyd-feirniaid yn Nhregaron. Mae hynny’n eironig tu hwnt o gofio bod y llinellau o nofelau Daniel Owen y mae’r mwyafrif o ’nghenhedlaeth i yn dal i’w cofio yn cynnwys ymadroddion Saesneg. Dyna i chi Wil Bryan, mewn cymdeithas a oedd yn drwm dan ddylanwad caeth y capel, yn pwysleisio’n wastadol yr angen i bobl fod yn ‘true to Nature’. Ac efo’r geiriau ‘to be sure’, yn ei Saesneg prin, y byddai’r hen batriarch Tomos Bartley, cymeriad hollol wahanol i’r ifanc a’r ysgafala Wil, yn atalnodi pob gosodiad o’i eiddo. Ar yr un pryd, cyn iddi gael ei thröedigaeth mae Daniel Owen yn cyfleu diffyg sylwedd Susi Trefor drwy ei hoffter o arfer termau Saesneg ffasiynol y dydd.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Tudalen flaen The Hindustan Times, 15 Awst 1947

India – 75 mlynedd o annibyniaeth

Ymlaen >
Rali streicwyr ym Mhort Talbot, Ebrill 1984

Mewn undeb mae nerth