Thema dywyll Thema golau

Trump, golff ac undod

Y Taoiseach Micheál Martin a Donald Trump. Llun: Daniel Torok / Y Tŷ Gwyn

Yn sgil cefnogaeth Donald Trump i greu Iwerddon unedig a’r cyfarfod yng Nghaerdydd rhwng arweinwyr Sinn Féin, yr SNP a Phlaid Cymru, rhoddwyd cryn sylw’n ddiweddar i ddyfodol cyfansoddiadol yr ynysoedd hyn.

Roedd pawb ar bigau’r drain wrth i Donald Trump lanio yn Iwerddon ar fore Sadwrn 12 Medi. Dod yma ar gyfer y golff yr oedd o, gan fod cystadleuaeth yr Irish Open yn cael ei chynnal ar y cwrs yn Doonbeg, ar lan yr Iwerydd yn Swydd Clare, sy’n eiddo iddo fo. Ond er mai ymweliad personol oedd hwn, rhaid oedd cynnal ambell i gyfarfod gwleidyddol, gyda meicroffonau a chamerâu yn ei ddilyn i bob man. A chan nad oes yna neb byth yn gwybod be ddaw o enau’r Arlywydd, a chan ei fod o mor hoff o sylw, roedd yna ddigon o botensial i bethau fynd ar gyfeiliorn… Ond y peth olaf yr oedd unrhyw un yn ei ddisgwyl oedd y byddai’n achosi stŵr drwy lamu i mewn i ddyfroedd cyfansoddiadol peryglus a galw am Iwerddon unedig.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Diwedd yr ‘amwysedd strategol’?

Ymlaen >

Talcen caled Cefin