Thema dywyll Thema golau

Tsieina a’r Byd

 

Bedair blynedd yn ôl yn Athen, roedd y campfeydd yn dal i gael eu hadeiladu fis cyn dechrau’r gemau Olympaidd. Yn Beijing, lle mae pob bricsen a hoelen yn ei lle, y cur pen mwyaf ydi algae. Mae’r stwff gwyrdd anghynnes wedi tagu arfordir Qingdao, lleoliad y cystadlaethau hwylio, a hynny i’r fath raddau fel bod aelodau ifainc y fyddin i fyny at eu penliniau yn y gwyrddni gwlyb yn helpu’r achos. Mae’n hanesyn sy’n dweud cyfrolau; yn Tsieina mae grym y llywodraeth wedi sicrhau bod popeth wedi ei adeiladu mewn da bryd, ond yn ystod y flwyddyn bwysicaf yn ystod ei hanes modern mae grym natur wedi llorio Tsieina fwy nag unwaith.

Mewn blwyddyn lle mae cymaint wedi digwydd yng ngwlad fwyaf poblog y byd, ychydig sy’n cofio stormydd Ionawr. Roedd degau o filiynau yn ceisio gadael y trefi a’r dinasoedd er mwyn dychwelyd at eu teuluoedd yng nghefn gwlad yn ystod yr eira trymaf a welwyd yn Tsieina ers hanner canrif. Ar un draffordd fe gafodd ugain mil o geir eu dal yn yr eira. Ac yn ystod y stormydd hynny cafwyd y dystiolaeth gyntaf o agwedd newydd arweinwyr y wlad. Nid yw empathi yn rhywbeth naturiol i wleidyddion Tsieina, ond wrth i filoedd rynnu mewn gorsafoedd trên ledled y wlad fe ddaeth y Prif Weinidog, Wen Jiabao, i ymweld â nifer o’r gorsafoedd gan ddweud ei fod yn teimlo poen y bobl. Nid hwn fyddai’r tro olaf i’r Prif Weinidog orfod gwneud datganiad o’r fath.

Wrth i’r gemau nesáu a’r eira wedi hen ddadmer fe gafodd Tsieina ysgytwad anferth gan ddaeargryn wedi ei ganoli yn rhanbarth Sichuan. Fe darodd y daeargryn yng nghanol dydd tra roedd plant yn eu dosbarthiadau ac oedolion wrth eu gwaith. Diflannodd trefi cyfan mewn mater o eiliadau gan gaethiwo miloedd o dan dunelli o goncrid. Ar yr un pryd roedd y gymuned ryngwladol yn canolbwyntio ar gael cymorth i gannoedd o filoedd o bobl Byrma ar ôl corwynt dinistriol. Roedd y jwnta milwrol sy’n rhedeg y wlad honno yn gwadu eu bod angen unrhyw gymorth, ond yn gwneud ychydig iawn i help eu pobl.

O edrych yn ôl ar y ddau ddigwyddiad mae’r gwrthgyferbyniad yn drawiadol. O fewn oriau i’r daeargryn daro Sichuan roedd Wen Jiabao yno yn asesu’r difrod ac yn cynnig cymorth. Roedd timau achub wedi cyrraedd yr ardal mor gyflym â phosib ac fe anfonwyd degau o filoedd o filwyr a thimau meddygol i helpu. Yn ôl un o’r swyddogion Americanaidd a welodd beth o’r gwaith, dyma fodel i wledydd eraill ei ddilyn mewn sefyllfa debyg yn y dyfodol.

Yn nhermau PR dyma’r union beth yr oedd arweinwyr Tsieina eisiau ei glywed ar ôl bod yn destun beirniadaeth y gymuned ryngwladol yn ddiweddar. ‘Beth am record Tsieina ar hawliau dynol?’ oedd y cwestiwn a gafodd ei ofyn drosodd a throsodd pan enillodd Beijing yr hawl i lwyfannu’r Gemau Olympaidd. A phan drodd protest gan fynaich yn Tibet yn wythnos o derfysg gyda dwsinau o bobl yn cael eu lladd, roedd y cwestiwn hwnnw yn cael ei ofyn eto. Fyddwn ni byth yn hollol siwr o’r hyn a ddigwyddodd yn Tibet fis Mawrth gan fod newyddiadurwyr yn bethau prin iawn yno. Tra bod Tsieina wedi caniatáu i ohebwyr deithio’r wlad yn ddidramgwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Tibet wedi parhau i fod yn ardal lle mae angen trwydded arbennig i ymweld â hi. Ond mae hi’n ymddangos bod y fyddin wedi defnyddio’i grym i ddod â’r protestiadau i ben, a bod hawliau dynol wedi bod yn isel iawn ar y restr blaenoriaethau wrth i gannoedd o bobl gael eu harestio a’u carcharu.

Pe byddai hi’n rhyw flwyddyn arall, efallai y byddai protestiadau Tibet wedi mynd yng angof yn eithaf buan. Ond roedd Tsieina yn paratoi i fynd â’r fflam Olympaidd ar ei thaith hiraf erioed o gwmpas y byd. Cyfle euraid i brotestwyr ar bob cyfandir i ddangos i Tsieina beth a feddylient o’u record hawliau dynol. Roedd hi’n flêr yn Llundain, yn flerach ym Mharis, ac erbyn i’r fflam gyrraedd San Fransisco roedd yr orymdaith wedi troi’n ffars llwyr wrth i’r fflam orffen ei thaith yn America ar bont traffordd. Fe esboniodd un o gyn-lysgenhadon America i fi ar y pryd fod gan y Tsieineaid obsesiwn gyda sioe, a bod yr ysfa i greu sioe fwy a gwell nag unrhyw un o’u blaenau wedi eu dallu rywfaint wrth drefnu taith y fflam. Roedd y protestiadau hefyd yn ergyd fawr i falchder cenedlaethol y Tsieineaid gyda nifer fawr yn teimlo eu bod yn cael eu sarhau gan y gymuned ryngwladol. Erbyn i’r fflam gyrraedd yn ôl i dir mawr Tsieina doedd yr awdurdodau ddim yn fodlon cymryd unrhyw risg. Roedd y cyngor i bobl dinas Urumqi yn atgoffa rhywun o’r cyngor a roddwyd i bobl Nevada pan oedd bomiau niwclear yn cael eu profi yn y pumdegau: arhoswch adref, caewch eich ffenestri, a gwyliwch yr holl beth ar y teledu.

Mae Tsieina yn llwyr ymwybodol y bydd canran uchel o sgriniau teledu’r byd yn edrych ar Beijing dros yr wythnosau nesaf ac yn seilio’u barn am y Tsieina fodern ar safon y Gemau. Mae’r awdurdodau’n hyderus fod ganddyn nhw’r gallu i lwyfannu digwyddiad fydd cystal â’r gemau a gofir fel rhai mwyaf llwyddiannus y degawdau diwethaf, sef Gemau Sydney wyth mlynedd yn ôl. Does dim ond angen edrych ar ‘y nyth’, y stadiwm athletau trawiadol fydd â lle ynddo i dros naw deg mil o wylwyr, i weld ymgorfforiad yr hyder hwnnw.

Ond edrychwch ar unrhyw lun o’r stadiwm hynod, neu ar unrhyw ran arall o Beijing ar hyn o bryd, ac fe ddaw’n amlwg yn eithaf sydyn be’ fydd problem fawr y ddinas; y niwl trwchus hwnnw, y ‘smog’, sy’n gymaint o broblem. Er yr addewidion i gau ffatrïoedd a gwahardd ceir oddi ar y ffyrdd am gyfnod cyn dechrau’r Gemau, mae’n ymddangos mai cynllun brys yw hwn, sydd wedi ei weithredu ychydig yn rhy hwyr. Mae gwir bryder am iechyd y rhai fydd yn rhedeg y marathon os bydd y smog ar ei waethaf yn ystod y bythefnos Olympaidd – cymaint o bryder fel bod y pwyllgor Olympaidd yn barod i newid dyddiadau rhai cystadlaethau os bydd safon yr amgylchedd yn rhy wael.

Wrth gwrs nid digwyddiadau cwbl naturiol ydi’r smog na’r algae. Mae ’na gysylltiad uniongyrchol rhyngddyn nhw a’r llygredd sy’n cael ei greu gan awch Tsieina i ddod yn rhan o’r byd datblygedig. Os bydd y llygredd hwnnw’n tagu’r Gemau, yna mi fydd blwyddyn fawr Tsieina yn troi yn un i’w hanghofio, o’i dechrau i’w diwedd.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Brendan Behan, Rhodri Glyn a Realpolitik

Ymlaen >

Bro a Bywyd Kyffin