Thema dywyll Thema golau

Twitter

Ysgrifennwyd y cofnod am 14:29. Am 14:40, sef 11 munud yn ddiweddarach, ysgrifennodd hi gofnod arall: ‘Ddim yn siwr am y peth ’ma to, a ddim yn gwbod os fi’n ymddwyn yn weddus.’

Erbyn hyn efallai y byddwch chi wedi clywed am Twitter, sef y tidbit electronig sy’n cyfyngu ei ddefnyddwyr i ddim ond 140 nod. Mae yna gryn lawer o sôn amdano yn ddiweddar – ar y newyddion, ar raglen teledu Jonathan Ross, ar Wedi 7 hyd yn oed. Pryd bynnag mae rhywbeth yn ennill sylw Wedi 7 mae e wedi hen gyrraedd y mainstream.

Fel cynifer o bethau Gwe 2.0, mae Twitter yn enw, berf a dull o feddwl. Yr enw yw’r wefan, sef http://twitter.com; y ferf yw’r broses o gyfrannu ato, sef trwy eich cyfrifiadur neu ffôn symudol; a’r dull o feddwl yw’r mathau o bethau a gyhoeddir ar y wefan.

Y newyddbeth o Twitter yw ei fyrdra gorfodol; ni all cyfrannwr ddefnyddio rhagor na 140 nod mewn neges, neu ‘twît.’ Sgil-effaith hyn yw tuedd tuag at gofnodion cyffredin, bob dydd – yr hyn y meddyliwch amdano wrth deithio i’ch gwaith. Er enghraifft: ‘Mae hi’n ddiwrnod braf heddiw, yn dydy?’ neu ‘Byddai’n well ’da fi fod wedi cael tost i frecwast y bore ’ma,’ neu ‘Dwi’n meddwl ’mod i mewn cariad ag Emma Walford, cyflwynwraig Wedi 3.’

Petaech chi’n gweld y fath wefan am y tro cyntaf – miloedd ar filoedd o feddyliau bach, dibwys wedi’u casglu yn drefnus – efallai y byddech chi’n methu gweld y pwynt. Yn y cannoedd o straeon newyddion sydd wedi cael eu hysgrifennu am Twitter hyd yma, dyna’r maen tramgwydd i gynifer o bobl: Beth Yw’r Pwynt? Mae yna amryw atebion posibl, megis rhyngweithio, marchnata, ac ati. Ond, yn y bôn, byddwn i’n dweud nad oes pwynt.

Er hynny, mae Twitter yn rhywbeth sy’n cyffwrdd ag elfen gynhenid i’r profiad dynol. Anifail cymdeithasol yw dyn, meddai Socrates. Mae gennym angen i arsylwi a sylwi ar y byd o’n cwmpas ni, ac i rannu hyn â phobl eraill. Amser maith yn ôl byddai’r dyn y tu ôl i chi mewn ciw banc yn sôn am y tywydd wrthych, neu’r rygbi, neu bethau bach eraill. Bellach rydym ni wedi cyrraedd adeg lle mae pawb yn ceisio osgoi siarad â’r dyn ’na, ond yno o hyd mae’r dyhead i gysylltu â’r byd.

Dyna’r rheswm y tu ôl i boblogrwydd Twitter a chynifer o wefannau cymdeithasol tebyg. Mae yna rywbeth ofnadwy o syml ynddynt, rhywbeth sy’n berthnasol i eisiau sylfaenol pob un person, bron. Mae’r cysyniad yn un hen; yr unig beth sy’n newydd amdano yw ei fod ar y rhyngrwyd.

A dyna newydd-deb sy’n anodd i sawl person ei amgyffred. Yn aml, pryd bynnag y mae’r cyfryngau’n trin Twitter, gwnânt yr hen beth hynny o ffugio twpdra oherwydd mai rhywbeth ‘modern’ yw’r pwnc: ‘Www, tidbits electronig. Rhy gymhleth i fi.’ Yn sgil hynny, maent yn bwydo agwedd afresymol mai rhywbeth i’w ofni yw technoleg. Rydym yn rhy gyflym i goelio’r chwedlau arswydus a gweld y rhyngrwyd fel rhywbeth mwy nag yw e.

Gellir gweld yr anghysur hwn yng nghofnodion fy ffrind; mae ganddi bryderon am yr hyn y gellir cael ei wybod amdani trwy’r rhyngrwyd. Dadl yn erbyn y fath wefannau yw’r syniad o ‘bawb yn gwybod popeth’ amdanoch. Ond nid dyfais sy’n gallu darllen eich meddyliau yw Twitter. Y wybodaeth sydd arno yw’r wybodaeth y bydd y defnyddiwr yn ei chyflwyno.

Fel y dwedais o’r blaen, does dim pwynt i Twitter. Mae’n ffordd arall o gyfathrebu; ac yn fy marn i, prin y mae cyfathrebu yn rhywbeth negyddol. Does dim rheswm i ofni pethau fel hyn. Ond, chwarae teg, does dim angen dwlu arnyn nhw, chwaith. Er fod Twitter yn boblogaidd iawn ar hyn o bryd, mae yna bethau eraill i ganolbwyntio arnynt. Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd gan y cylchgrawn The Business Insider restr o 100 peth sy’n fwy poblogaidd na Twitter. Yn eu plith roedd Mormoniaeth, a’r gân ‘Please Hammer, Don’t Hurt ’Em,’ gan MC Hammer.

(Gellir dod o hyd i Chris Cope ar Twitter trwy http://twitter.com/chriscope)


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Hen, ond arwr o hyd

Ymlaen >

Chwyldro Amser Cinio’r Llew Du