Thema dywyll Thema golau

Twll Du – y llun cyntaf

erthygl-mai-2019-1969-902 erthygl-mai-2019-1969-902
O’r diwedd daeth y llun! Ym mis Ebrill llwyddwyd am y tro cyntaf i weld delwedd o un o ryfeddodau’r bydysawd – Twll Du. Ers 2017 bu tîm cydweithredol o seryddwyr yn gweithio ar y prosiect trwy gyfuno rhwydwaith o wyth telesgop radio mwyaf pwerus y byd. Trwy uno telesgopau o Begwn y De i Ffrainc i Hawaii roedd modd creu telesgop ‘rhith’ a oedd yn cyfateb i un maint y byd cyfan. Am ddeg diwrnod bu pob un yn syllu ar yr un gwrthrych yng nghanol Galaeth Messier 87. Casglwyd cymaint o ddata fel nad oedd modd ei anfon drwy’r we. Yn lle hynny bu rhaid cario cannoedd o ddisgiau caled o bedwar ban byd i’r ganolfan yn Boston. Yn Boston dehonglwyd yr holl ddata gan raglen gyfrifiadur. Yn y llun mae sffêr anweledig y twll wedi’i amgylchynu â chwmwl o oleuni. Mae’r cwbl yn rhyfeddol o debyg i luniau dychmygol artistiaid diweddar, gan gynnwys rhai Hollywood. Dyma benllanw bron i ddwy ganrif a hanner o ddyfalu.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mai-2019-1968-901

Blodwen yng ngwlad y cowbois

Ymlaen >
erthygl-mehefin-2019-1971-906

Pen-blwydd hapus, ond dim mwy o ddathlu