Thema dywyll Thema golau

Tynged iaith

erthygl-tachwedd-2020-2157-1060 erthygl-tachwedd-2020-2157-1060
The Gaelic Crisis in the Vernacular Community: A comprehensive sociolinguistic survey of Scottish Gaelic, Conchúr Ó Giollagáin et al. (Aberdeen University Press, £25) Fydd yna ddim llyfr pwysicach i’w gyhoeddi eleni, i’r Gael nac i’r Cymro Cymraeg o ran hynny. Mae wedi derbyn sylw rhyngwladol yn y wasg a’r cyfryngau ac wedi arwain at drafodaethau gwleidyddol dwys yn Senedd yr Alban. Ac, yn bwysicaf oll, mae wedi esgor ar awydd yn y gymuned Aeleg ei hun i adolygu holl drywydd y polisïau iaith a ddarperir ar ei chyfer. ‘Scotland’s Gaelic language could die out in 10 years’, meddai CNN. Ydi hynny’n wir? Mae’n dibynnu ar beth a olygai wrth yr ymadrodd ‘marw’. Nid yw’n golygu na fydd yr iaith yn cael ei llefaru gan unigolion yng Nghaeredin a Glasgow, ac yn sicr ni feddylir na fydd rhwydwaith o siaradwyr ail iaith ar hyd a lled y byd ynghyd ag yn yr Alban ei hun. Yr honiad yn hytrach yw y bydd Gaeleg wedi darfod fel iaith gymunedol o fewn degawd, ac o graffu ar yr ystadegau a gynigir yn y llyfr, mae’n anodd anghytuno.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-tachwedd-2020-2156-1059

Uchelgais Adam Price – a swyddogaeth Plaid Cymru

Ymlaen >
erthygl-tachwedd-2020-2159-1061

Bywyd ar ôl Wylfa Newydd