Er cwestiynu ambell elfen, gan gynnwys dwyieithrwydd y cynhyrchiad, roedd llawer i’w ganmol yn y fersiwn hwn o drasiedi Shakespeare, meddai MANON WYN WILLIAMS.
Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, sydd wedi cyfarwyddo’r cynhyrchiad dwyieithog hwn o un o ddramâu mwyaf adnabyddus Shakespeare. Ac yntau wedi cwblhau ymchwil ôl‑radd ar y cysylltiadau rhwng Shakespeare a Chymru, pwy well i amlygu’r agweddau Cymreig a berthyn i gyfieithiad J.T. Jones. Yn nhraethawd doethuriaeth Manon Gwynant, sy’n amlygu cyfraniad J.T. Jones fel llenor, nodir iddo lunio’r cyfieithiad yn 1974 ar gais John Gwilym Jones a fwriadai lwyfannu’r ddrama gyda’r Gymdeithas Ddrama ym Mhrifysgol Bangor. Nid yw’n hysbys a wireddwyd hynny, ond cafwyd llwyfaniad o’r fersiwn yn 1983 gan Gwmni Ieuenctid yr Urdd (yr un flwyddyn ag y’i cyhoeddwyd) ac yna yn 2004 gan Theatr Genedlaethol Cymru. Pam felly i Theatr Cymru ddewis llwyfannu cynhyrchiad dwyieithog o’r ddrama y tro hwn?
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru
