Thema dywyll Thema golau

Un gambl yn ormod?

Joe Biden a Robert Hur Joe Biden a Robert Hur
Las Vegas oedd ffocws 120 miliwn o Americanwyr ar 11 Chwefror eleni wrth i garnifal blynyddol y Super Bowl ymweld â phrifddinas hapchwarae’r Unol Daleithiau. Ond nid yn Las Vegas y canfyddir gamblwyr mwyaf America heddiw, eithr yng nghoridorau pŵer Washington lle mae cadfridogion y Tŷ Gwyn yn mynnu y gall Joe Biden ennill ail dymor fel Arlywydd. Rhwng muriau cedyrn 1600 Pennsylvania Avenue, mae arweinwyr y Blaid Ddemocrataidd yn barod i fentro y gall gŵr 81 oed gadw gafael ar y Tŷ Gwyn yn yr etholiad arlywyddol pwysicaf mewn degawdau. Amlygwyd graddfa’r risg i’r Democratiaid yn adroddiad diweddar y cwnsler arbennig Robert Hur. Daeth yr adroddiad hwnnw i’r casgliad nad oedd unrhyw achos cyfreithiol i’w ateb gan Biden, er ei ddiofalwch wrth ymdrin â dogfennau sensitif a chyfrinachol. Ond yr hyn a hawliodd y penawdau oedd portread Hur o Biden fel hen ŵr anghofus a chanddo feddwl diffygiol.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cip ar weddill rhifyn Mawrth

Ymlaen >
Rishi Sunak, John Major, Tony Blair, Keir Starmer

1997 a 2024 – y tebyg a’r annhebyg mewn blwyddyn etholiadol