Thema dywyll Thema golau

Un penwythnos yng Nghymru 2022

Gorymdaith YesCymru, Caerdydd, Hydref 2022 Gorymdaith YesCymru, Caerdydd, Hydref 2022
Diwrnod pen-blwydd Gwyn Alf Williams, dydd Gwener 30 Medi. Dyddiad da i fod yng Nghanolfan Soar, Merthyr, yn nhre enedigol yr hanesydd dylanwadol ar achlysur y ddarlith goffa flynyddol yn ei enw. Trwy gyd-ddigwyddiad roeddwn yn eistedd drws nesa i Simon, mab Gwyn Alf, yn y ddarlith. Doeddwn i ddim yn gwybod hynny ar y pryd, ond dyna ddechrau cyfres o gysylltiadau a fyddai’n ymestyn trwy’r nos Wener a’r dydd Sadwrn canlynol. Dafydd Iwan, Eddie Butler, Ifor ap Glyn, Will Hayward, Mike Jenkins – dyna rai o enwau eraill fy mhenwythnos. Ymgais i roi trefn bersonol ar hyn oll yw’r geiriau hyn, i roi siâp ar y cae hir rhwng Merthyr a Chaerdydd. Bethan Sayed, merch o Ferthyr a chyn-aelod cynulliad, a draddododd darlith goffa Gwyn Alf. Nododd cyn dechrau fod eleni’n hanner can mlynedd ers sefydlu Ysgol Santes Tudful yn y dre. Mae hi’n gyn-ddisgybl. Roedd nodi’r dathliad hwnnw yn ddechrau calonogol ac arwyddocaol. Ni fyddai gan Gwyn Alf unrhyw amgyffred o’r fath beth.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Protest dros annibyniaeth i Gatalwnia, Barcelona

Catalwnia, bum mlynedd wedi’r refferendwm

Ymlaen >
Ysgol Uwchradd Casnewydd, Betws

O’r hen i’r newydd – treftadaeth dan fygythiad