Thema dywyll Thema golau

Unbennaeth yr algorithm – ‘cyfrinach fasnachol’

erthygl-hydref-2020-2145-1048 erthygl-hydref-2020-2145-1048
Pob lwc i’r ymchwiliad annibynnol sy’n gobeithio cyhoeddi adroddiad ddiwedd Hydref ar lanast y canlyniadau Lefel A a fu’n gysgod dros filoedd o ddarpar fyfyrwyr yn ystod yr haf. Fydd tyrchu am atebion ddim yn hawdd. Mae’r algorithm sydd wrth wraidd yr helynt yn gyfrinach fasnachol – ‘Trade Secret’ – a dyfynnu union eiriau Cyd-bwyllgor Addysg Cymru. Dyna ydi ymateb CBAC i gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Fe ddywedon nhw wrtha i y byddai rhyddhau’r wybodaeth yn niweidio buddiannau busnes y corff arholi. Ac wrth ymateb i’r un cais fe ddatgelodd y rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru, nad oedden nhw’n gwybod manylion yr algorithm, ac yn benodol y côd mathemategol a roddwyd ar waith, er mai nhw oedd wedi cymeradwyo’r model safoni a ddefnyddiwyd gan y Cyd-bwyllgor. Mater i CBAC yn unig oedd hyn, meddai CC…

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-hydref-2020-2144-1047

Beth yw’r ots ganddyn nhw am Gymru?

Ymlaen >
erthygl-hydref-2020-2146-1049

Tanau Califfornia – profiad un o’r trigolion