Thema dywyll Thema golau

Wylit Lywelyn

Protestwyr ifanc yn erbyn Arwisgo 1969 yng Nghaernarfon Protestwyr ifanc yn erbyn Arwisgo 1969 yng Nghaernarfon
A minnau wedi bod yn newyddiadura am ymhell dros hanner canrif, mae gwrando a gwylio bwletinau a rhaglenni newyddion yn ogystal â darllen y wasg brint wedi bod yn rhan mor naturiol ag anadlu o ’mywyd beunyddiol i. Ac yn y blynyddoedd diwethaf mae derbyn y penawdau ar sgrîn ffôn, tabled a chyfrifiadur wedi dod hefyd yn ffynhonnell nad ydym ni jyncis newyddion yn gallu byw hebddi. Ond yn wahanol i’r artaith y mae’r rhai sy’n gaeth i alcohol a chyffuriau eraill yn gorfod ei dioddef wrth frwydro i ymryddhau o’u dibyniaeth, fe ddaeth rhyddhad yn rhwydd i mi. Eto, dyw’r gymhariaeth honno ddim yn hollol addas. Methu byw heb gyffuriau mae’r trueiniaid y cyfeiriais atyn nhw uchod. Ond dod i fethu dioddef derbyn rhagor o newyddion wnes i. Ar ôl ychydig ddyddiau o gael fy stwffio â gormod o bwdin brenhinol, fel y ci yn yr hen ddywediad fe dagais innau. Am y tro cyntaf yn fy hanes fedrwn i ddim gwylio na gwrando ar y newyddion.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Golygfa coridor ysgol gyda dwy ddisgybl yn cerdded i ffwrdd

Dadlau am addysg rhyw

Ymlaen >
Cartŵn coctel Tywyll a Stormus yn dangos wyneb Pŵtin mewn gwydr

Craciau yn fy ngwydr hanner llawn