Thema dywyll Thema golau

Wynebu celwydd trwy lun a gair – gwaith Anthony Shapland

Dyn yn edrych ar y tirwedd drwy ffenestr trên Dyn yn edrych ar y tirwedd drwy ffenestr trên
Delwedd llonydd o ffilm 'A sound not meant to be heard'

Celwyddgi, Celwyddgi yw teitl arddangosfa ddiweddaraf yr artist Anthony Shapland sydd i’w gweld yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Dilyniant ydyw i’r sioe A Sound not Meant to be Heard a welwyd yn Oriel Davies, y Drenewydd, yn 2017. Mae’r arddangosfa hon hefyd yn gyfuniad o osodwaith, ffilm, ffotograffiaeth, sain, gwrthrychau a thestun. A’r tro hwn eto mae cyfeiriadaeth hunangofiannol yn ganolog i’r gwaith sy’n ymwneud â byd nad yw ond yn dechrau newid ei agweddau cymdeithasol, diwylliannol a moesol tuag at bobl hoyw. Dyma fyd lle mae bywyd yn gorfod cael ei fyw yn ddirgel ac yn agored, yn aml megis perfformiad – y byw celwydd.

Ffotograff stereosgop o Fargod, sef tref enedigol yr artist, a hynny ar ffurf bwrdd hysbysu mawr, sy’n meddiannu un pen i’r oriel. Tynnwyd y llun yn 1984 pan oedd yr artist yn 13 oed a’r grŵp pop hoyw Bronski Beat newydd ryddhau Smalltown Boy.

< Yn ôl
Gŵr yn chwerthin

Plymio i’r ‘pwll mawr’ theatrig – holi Tudur Owen

Ymlaen >
Portread

Cofio Nesta Wyn Jones