Petai’r chwaraewr tennis Jannick Sinner yn siarad Cymraeg, ar ôl iddo gael ei wahardd ddechrau eleni am fod â’r cyffur gwaharddedig clostebol yn ei waed, buasai’n canu ‘Os gwelir fi, bechadur,…’ o Gasgliad Harri Siôn, 1773. A phetai ei wrthwynebydd cryfaf ar y cwrt, Carlos Alcaraz, yn siarad yr heniaith, diau y cyfaddefai ei fod er yn fachgennyn wedi bod yn canu ‘Ennyn ynom fflam angerddol’ o waith y Bedyddiwr mawr Gomer. Ydynt, o ran eu natur a’u hymarweddiad, y mae’r ddau am y pared â’i gilydd, yr Eidalwr lled‑Almaenig o Dde’r Tyrol yn wynepglawr ddifrifol a’r Sbaenwr gwalltddu gwaed‑coch‑cyfan o Furcia yn fyrlymus wenog. Gan fod y naill mor ddifynegiant a’r llall yn pefrio’n barhaus gellir dweud eu bod yn perthyn i ddau ddiwylliant gwahanol. A chan eu bod yn debyg o dra‑arglwyddiaethu yn eu priod faes am o leiaf ddegawd eto i ddod, ardderchog o beth yw’r gwrthgyferbyniad sydd rhyngddynt. Caiff Jannick gefnogaeth y gorddifrifol tra caiff Carlitos gefnogaeth y gorangerddol.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru