Thema dywyll Thema golau

Y Ceidwadwyr ar ôl ‘Boris’

erthygl-chwefror-2022-2306-1199 erthygl-chwefror-2022-2306-1199
Wrth i mi roi hyn o eiriau ar glawr (19 Ionawr), mae’r wasg a’r cyfryngau cymdeithasol yn llawn dop o storïau a sibrydion sy’n dangos yn eglur fod Johnson bellach yn ymladd am ei einioes. Ond does wybod lle bydd y stori wedi cyrraedd erbyn i chi ddarllen hwn. Mae’r broses o geisio cael ’madael ar Brif Weinidog yn gallu bod yn un drofaus ac mae’n parhau’n bosibiliad real y gall Johnson oroesi’r argyfwng presennol. Fe gofiwch i Theresa May, a John Major o’i blaen, oroesi pleidleisiau hyder, ac roedden nhw ill dau mewn sefyllfaoedd gwannach na’r gŵr a lwyddodd i ennill mwyafrif braf i’w blaid yn etholiad cyffredinol 2019. Wedi dweud hynny, hyd yn oed os yw Johnson yn llwyddo i lusgo ymlaen am ddeuddydd, deufis neu hyd yn oed ddwy flynedd arall, mae’n weddol eglur ein bod bellach yn cychwyn ar gyfnod newydd yng ngwleidyddiaeth y wladwriaeth hon. Hyd yn oed os llwydda Johnson i barhau i rygnu byw fel Prif Weinidog, mae oes ‘Boris’ – y gwleidydd adain dde boblyddol sydd wedi swyno cynifer ers cyhyd – ar ben.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-chwefror-2022-2305-1198

Beth aeth o’i le ar Yes Cymru?

Ymlaen >
erthygl-chwefror-2022-2308-1200

Pryd y daeth y Gymraeg i Ynys Prydain?