Bu cryn ddathlu yn ddiweddar yng nghoridorau’r cyngor yng Nghaernarfon yn dilyn llwyddo i godi’r dreth ar ail gartrefi’r sir. Priodol y llawenhau mae’n siŵr. Ac er nad yw manteision y polisi hwnnw eto wedi eu llawn werthuso, datgelodd Mynegai Prisiau Tai diweddaraf Cymdeithas Adeiladu’r Principality mai Gwynedd a welodd y gostyngiad mwyaf mewn prisiau tai (-12.4%) yng Nghymru gyfan. Onid da hyn oll? Wedi’r cyfan, oni fu’r ‘Tai Haf’ a’r ‘Mewnfudo’ yn gyffredinol yn fwganod mawr gennym ni ‘garedigion y Gymraeg’ am ddegawdau lawer? Ond ysywaeth, y mae bellach fygythiad newydd. Clustfeiniwch eto yn y cynteddau grym, ac mae’r lleisiau yn ddistawach – yn fwy tawedog o lawer yn eu hymateb i’r niwed cyfatebol a achosir yn gynyddol, fe ellir dadlau, i’r cymunedau Cymraeg gan weithgarwch y Cymdeithasau Tai.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
