Ar ôl siom atal Gwobr Goffa Daniel Owen llynedd, roedd teilyngdod yn y ddwy brif wobr ryddiaith eleni a’r arlwy arferol o ddwy gyfrol i’w dafoli mewn byr amser gan ein hadolygydd MEG ELIS.
Roeddwn yn y Pafiliwn yn gwrando ar feirniadaeth gymen a graenus Mari Emlyn ar gystadleuaeth y Daniel, pan grybwyllodd hi’r gair ‘ffantasi’ am y gyfrol oedd yn amlwg yn mynd i ennill. Suddodd fy nghalon: cas genre gen i, a finna i fod i adolygu’r ddywededig gyfrol? Ond llonnwyd fy nghalon gan ddau beth: sylweddoli mor eang yw’r diffiniad o ‘ffantasi’ – wedi’r cyfan, rydw i wedi astudio a mwynhau’r Mabinogi a Gweledigaethau’r Bardd Cwsg, heb sôn am fod wedi darllen rhaglen Llafur Cymru am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Ac yn ail, gweld pwy oedd yr enillydd, a chofio ysgrifennu grymus Peredur Glyn yn ei gyfrolau blaenorol. Whiw – dim angen yr e-bost ymddiheurol brys yna at Madam Golygydd, felly…
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru