Thema dywyll Thema golau

Y Dyn Fu yn y Lleuad

 

Hyd yn oed o bellter o ddeugain mlynedd a rhagor, nid oes modd gorbrisio camp Armstrong a gofodwyr eraill Apollo 11. Wrth iddo ef a’i gyd-beilot Buzz Aldrin lanio eu llong ofod denau-fel-tunffoil yn ddiogel ar y lloer, gwyddai’r 500 miliwn o wylwyr teledu o gwmpas y byd eu bod yn dystion i ddigwyddiad cwbl unigryw. Mae’n wir mai’r lleuad yw ‘ein cymydog drws nesaf ymysg y bydoedd’, chwedl E. Tegla Davies. Cwta chwarter miliwn o filltiroedd o’r Ddaear ydyw – rhyw dafliad carreg o’i gymharu â phellterau anfesuradwy ein bydysawd. Ond mae swyn dihafal yn perthyn i’r planedyn difywyd, di-nod sy’n goleuo ein nosweithiau ac yn tynnu moroedd y byd gydag ef. Yn 1969, wedi canrifoedd o syllu a rhyfeddu at y cylch disgleirwyn yn y nos, roedd dyn wedi gadael ôl ei droed arni. Gan nad oes gan y lleuad atmosffer – er bod digonedd o awyrgylch yn perthyn iddi! – does dim gwynt yn chwythu drosti. Gan hynny, aros mae olion camau Armstrong yn llwch y lloer hyd heddiw.

Yn y llu o deyrngedau a dalwyd iddo ers iddo farw, ‘diymhongar’ oedd yr ansoddair a arferwyd gan amlaf i ddisgrifio Neil Armstrong. Er iddo gyflawni un o’r campau technolegol mwyaf beiddgar erioed, a hynny gan beryglu ei fywyd ei hun a’i griw, nid oedd dim arlliw o ryfyg na rhwysg y seléb ar ei gyfyl. Nodweddiadol o’i gynildeb tawel oedd ei ddatganiad bod glanio Apollo 11 ‘braidd yn gymhleth’. Wrth i Aldrin rwdlian fod wyneb y lleuad yn ddarlun o ‘magnificent desolation’, mwy cartrefol oedd dyfarniad Armstrong. Cymharodd dirwedd anghyfannedd y lloer ag anialdiroedd ei famwlad megis De Arizona.

Bachgen o dref fechan Wapakoneta, Ohio, oedd Armstrong – un o’r myrdd o drefi bychain yn yr Unol Daleithiau a elwir yn ‘ddinas’, er bod eu poblogaethau tua’r un maint â Chas-gwent. Yn eironig ddigon, mab ei filltir sgwâr oedd y dyn a deithiodd ymhellach na neb o’r Ddaear. Yn ôl i dalaith ei febyd yr enciliodd wedi ei antur fawr, gan adael NASA yn 1971 i ymgymryd â swydd dysgu ym Mhrifysgol Cincinnati. Ni fu wedyn yn byw y tu allan i Ohio, gan fwrw’r rhan olaf o’i oes yng nghymuned fechan, led wledig Indian Hill ar gyrion Cincinnati.

Yn ddyn nodedig o breifat, ni fu erioed yn rhyw gyffyrddus iawn â’r enwogrwydd syfrdanol a ddaeth i’w ran yn sgil ei daith i’r lloer. Er ei fod wedi ymladd gyda chryn ddewrder yn Rhyfel Corea yn yr 1950au – gan hedfan i’r gad 78 o weithiau – nid oedd yn fodlon cael ei ddefnyddio i ddibenion propagandyddol fel eicon gwrth-Gomiwnyddol yn y Rhyfel Oer. Yn anad dim, peilot a pheiriannydd oedd Armstrong, yn ymhyfrydu mewn profi pa mor bell y gellid gwthio’r awyrennau a’r rocedi a roddwyd iddo i’w llywio.

Yn wahanol i John Glenn – yr Americanwr cyntaf i gylchdroi’r Ddaear – ni themtiwyd Armstrong i ymhél â gyrfa wleidyddol, er ei bod yn sicr y byddai’r Democratiaid a’r Gweriniaethwyr fel ei gilydd wedi bod wrth eu boddau i’w gael yn ymgeisydd. Yn 2010 ymddangosodd gerbron pwyllgor o Seneddwyr er mwyn lladd ar benderfyniad yr Arlywydd Obama i beidio anfon dynion yn ôl i’r lleuad. Ond, at ei gilydd, roedd yn well gan yr arwr swil gadw ei farn am y byd a’r betws iddo’i hun hyd y diwedd.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Y Pla Anhygoel

Ymlaen >

O’r Alban: Annibyniaeth – Dwy Flynedd i Fynd