Thema dywyll Thema golau

Y goedwig ar dân

erthygl-hydref-2019-2001-935 erthygl-hydref-2019-2001-935
Fforest law’r Amazon yw un o brif ecosystemau’r ddaear. Er bod cynnau tanau yn ddigwyddiad blynyddol yn nhymor sych Brasil mae’r cynnydd yn nifer y tanau yno – ac yn wir, dros y ffin ym Molifia hefyd – wedi bod yn syfrdanol eleni ac wedi ennyn ymateb chwyrn gan y gymuned ryngwladol wrth i’r actifydd egnïol, Greta Thunberg, ddatgan ‘bod ein cartref ar dân’. Coedwig yr Amazon yw ‘ysgyfaint y ddaear’ ac mae ganddi swyddogaeth allweddol yn nyfodol y blaned gan ei bod yn ymddwyn fel storfa anferthol o garbon. Hebddi, byddai’n anodd iawn inni aros o fewn gofynion Cytundeb Paris a chadw cynnydd tymheredd y ddaear o dan +1.5°C – y lefel y cytunwyd arno fel un sy’n osgoi gyrru’r ddaear i stad ansefydlog. Yn ogystal, mae gan y fforest law swyddogaeth allweddol arall wrth ein helpu i wrthsefyll effeithiau posib newid hinsawdd. Mewn gwledydd sydd wedi profi datgoedwigo ar raddfa enfawr gwelwn newidiadau syfrdanol i’w meicro-hinsawdd, trawsnewidiadau i’w tirwedd wrth i gyfraddau glaw leihau, ac effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-hydref-2019-1999-934

Kulturkampf!

Ymlaen >
erthygl-hydref-2019-2002-936

Tro newydd ar y traddodiadol