Thema dywyll Thema golau

Y gwasanaeth iechyd ac arian elusen

erthygl-mehefin-2020-2102-1014 erthygl-mehefin-2020-2102-1014
Fel rhywun sy’n hoff o ddilyn y cyfryngau cymdeithasol am resymau addysgol ac adloniannol, mi ydw i wedi gweld mwy na fy siâr yn ddiweddar o ffrindiau a chydnabod yn llyncu wy amrwd, wedyn llwyaid o siwgr, wedyn crogiad o’r ddiod gadarn cyn enwebu ffrindiau i wneud yr un peth. Her codi arian sydd wedi mynd yn ‘feiral’ yw hon, a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n derbyn yr arian. Cyn imi ddechrau swnio’n ddiflas a phregethwrol, mi ddylwn gyfaddef bod ambell fideo o’r fath yn ddigon doniol – ond ddim yn ddigon doniol imi ystyried ymgymryd â’r fath her fy hun chwaith! Mae cyfraniadau tuag at y GIG wedi cynyddu’n enfawr yn ddiweddar, gyda bron £117 miliwn wedi ei godi trwy gyfraniadau elusennol ers dechrau’r pandemig yn y DU. Ond arhoswch. Onid cyllid y wlad, trwy drethi a chyfraniadau yswiriant gwladol, a ddylai fod yn ariannu’r GIG llawn?

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mehefin-2020-2101-1013

‘Eich stori chi yw ein stori ni’

Ymlaen >
erthygl-mehefin-2020-2103-1015

Rhwng y cyfarwydd a’r cyfoes