Maent yn cael eu hystyried, ganddynt hwy eu hunain, yn bobol o bwys, yn rhai y mae cael eu gwasanaeth a’u cwmni yn fraint y mae’n rhaid talu’n ddrud amdani. Ond, meddech chi, mae beirniaid yng Nghymru yn unarddeg am ddimai. Onid trafferthion cael cystadleuwyr sydd gan ein heisteddfodau o Fôn i Fynwy, nid trafferthion cael beirniaid i’w cloriannu? Mae’r wlad yn llawn ohonynt, pob un yn feistr ar ei grefft, ac, yn amlach na pheidio, yn anghytuno efo unrhyw feirniad swyddogol. Ond mae’r Gwir Feirniaid yn hollol wahanol i’r beirniaid dwy a dimai hyn; maen nhw, welwch chi, yn Feirniaid go iawn. Onid oes ganddynt gymwysterau lu mewn meysydd sy’n amrywio o chwythu sturmant i Astudiaethau mewn Hunan-dyb, yn ogystal â phrofiad helaeth o chwythu eu trwmped eu hunain yn eu bandiau un dyn? Un o’u casbethau, ar wahân i gam gwag gan gystadleuydd, yw gwirfoddoli, yn enwedig dros y Gymraeg. Nid yw gwirfoddoli’n talu, ac mae’r rheini sy’n gweithio’n ddiarbed a di-dâl dros bethau Cymraeg, megis papurau bro, cymdeithasau, chwaraeon lleol, ac, yn arbennig, yr Urdd, yn amlwg yn ffyliaid. Oherwydd eu gallu difesur nid ydynt hwy, bellach, yn bwriadu beirniadu mewn unrhyw un o eisteddfodau’r Urdd nes y bydd eu tâl am wneud hynny yn cyfateb i ddwywaith elw’r eisteddfod honno. Safon sy’n bwysig, dim byd arall, a rhaid talu am safon. Pan fydd un ohonyn nhw’n beirniadu, mae popeth yn wrthrychol, cloriannu yn erbyn y safonau. Does gan y Gwir Feirniaid ddim chwaeth bersonol, er y gwyddant beth maen nhw’n ei hoffi. Safonau, safonau! Oherwydd hynny, wrth reswm, ni ddylai unrhyw gystadleuydd sy’n gwneud chwarter camgymeriad gael caniatâd i fynd o fewn ugain milltir i faes parcio unrhyw eisteddfod. Safon! A rhaid talu am gynnal safonau – talu i’r Gwir Feirniaid, wrth reswm. Gan fod prif wyl ieuenctid Ewrop yn gwneud elw anferthol, gweddus yw i’r Gwir Feirniad fod yn yfed o’i ffynnon ddihysbydd.
I ymgyrraedd at Nirfana mae gan y Gwir Feirniaid gynllun, un manwl sy’n llenwi’r holl ofod ar chwarter cefn paced sigaréts.
Yn gyntaf, creu cynghrair o Feirniaid ar gyfer ein gwyl ieuenctid. I’r dosbarth cyntaf y byddan nhw’n mynd, wrth reswm. Bydd y tâl fel y nodwyd uchod, yn ogystal â chostau teithio mewn tacsi, pedwar pryd o gafiâr a siampaen yr awr, a manion drudfawr eraill. Wrth reswm, bydd ambell gost bychan ychwanegol, megis lledu drws y neuadd er mwyn sicrhau y gall eu pennau fynd trwyddo, ynghyd â gosod delwau ohonynt hwy eu hunain o gwmpas yr ardal. Am hyn i gyd fe fyddwch yn cael sicrwydd y bydd un o’r cystadleuwyr yn ennill, na fydd neb yn cael cam (Duw a’n gwaredo!), ac y bydd unrhyw un sy’n gwneud unrhyw gam gwag, bychan neu lai, yn cael ei chwipio efo dalan poethion a drain duon.
I’r ail ddosbarth y perthyn rhai sydd bron, ond nid cweit, cystal â hwy. Ni fyddant hwy yn costio cymaint, wrth reswm, dim ond swm sy’n cyfateb i elw cyfan yr eisteddfod gylch, plus sundries. Un rhybudd; gall y rhain, ar adegau, feirniadu a chloriannu yn wahanol i’r Gwir Feirniad, gyda’r canlyniad anochel y bydd y canlyniad yn anghywir, a rhywun yn cael cam (Duw a’n gwaredo!). Ond dyna’r risg o beidio talu i’r Gwir Feirniaid.
Ac, yn y gwaelod, y dosbarth isaf, y gwehilion, y rheini sy’n fodlon beirniadu am ddim, boed mewn eisteddfod gylch, sir, neu, hyd yn oed, genedlaethol, dim ond am eu bod yn coleddu rhyw syniad gwirion fod rhaid rhoi eu hysgwydd o dan y baich o weithio dros y Gymraeg. Efallai fod gan un neu ddau o’r rhain grap ar y llythrennau, a rhyw atgof am grefft, ond dyna’r cwbl. I’r dosbarth hwn y perthyn trueiniaid diddeall megis pawb ifanc, dibrofiad, dan bedwar ugain oed, rhai nad ydynt ond wedi ymwneud â chystadlu ers hanner canrif, a rhai sy’n enillwyr a hyfforddwyr ieuenctid profiadol. Gyda’r dosbarth yma o feirniad mae perygl enbyd o gael beirnadaeth sy’n dod i gasgliad gwahanol i’r un cywir (casgliad y GF, wrth reswm). Gall hynny wneud annhegwch mawr â phlentyn trwy roi beirniadaeth iddo sy’n hollol groes i farn pawb arall, yn enwedig ei fam (a’r GF). Bydd y cam dybryd hwn, wedyn, yn amharu ar y plentyn weddill ei oes ar y ddaear berffaith hon, lle mae popeth yn gyfiawn, trwy roi iddo’r camsyniad nad ef yw’r gorau yn y byd am wneud pob dim. (Duw a’n gwaredo!)
Y cam nesaf yn y cynllun yw sicrhau na chaiff neb ond y Gwir Feirniaid feirniadu yn Eisteddfodau’r Urdd. Ni chaiff neb sy’n adnabod unrhyw un yng Nghymru, neu’r tu hwnt, feirniadu. Gorau oll os nad ydynt yn gwybod dim am y wlad, na’r byd, o ran hynny, a byddai’n well byth petaent wedi eu magu ar y lleuad. Fel hyn y mae’r Beirniaid am sicrhau safon – ac y bydd y borfa’n frasach iddynt hwythau.
Cam olaf cynllun dwyfol y GF i weddnewid y sefyllfa druenus bresennol yw cael gwared ar y ffwlbri gwirfoddoli yma, a sicrhau fod pawb sy’n gwirfoddoli mewn unrhyw ffordd i gynorthwyo’r Urdd a phlant a phobl ifanc Cymru yn cael tâl gweddus am wneud hynny. Caiff bob un o’r rhain, wedyn, fathodyn mawr coch, gwyrdd, a gwyn gyda’r geiriau GWIRFODDOLWR CYFLOGEDIG arno, ac, ar yr ochr arall ABERTH AM ARIAN. Caiff hefyd datw ar ei dalcen GWERTH IAITH A DIWYLLIANT – £50 YR AWR. Wrth gwrs, bydd y tâl a geir yn amrywio yn ôl y gwaith, gyda’r hyfforddwyr ar waelod yr enillion, a’r GF, yn naturiol, ar y brig. Bydd gweddill y gwirfoddolwyr, megis symudwyr telynau, a stiwardiaid, rywle yn y canol. Bydd angen talu’r cystadleuwyr hefyd, am roi o’u hamser prin i wneud y fath ymdrech. Wrth reswm, rhoir pres petrol teilwng i’w rhieni am fynd i’r drafferth o’u certio i’r ymarferion. Ac onid braf fydd gweld Mistar Urdd, yn ei goch, gwyn, a gwyrdd, yn dawnsio hyd y ffyrdd, gan gario siec enfawr ei gyflog teilwng i’r banc agosaf. Dim ond fel hyn, yn ôl gweledigaeth glir y Gwir Feirniaid, y gwireddir y freuddwyd o’r Gymdeithas Farw (sori! Fawr).
Canmolwn yn awr ein Gwir Feirniaid! Brysied y dydd pan mai eu heiddo nhw fydd teyrnas Mamon. Hwy sy’n bwysig, nid yr Urdd, nid ein pobl ifanc, y rhai sy’n eu cynorthwyo, na’n hiaith a’n diwylliant. A brysied y dydd pan fydd pob gwirfoddolwr yn cael arian teilwg am wirfoddoli, ac yn gwisgo ei fathodyn a’i datw drudfawr gyda balchder. A Mistar Urdd yn filionêr!
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

