Thema dywyll Thema golau
Yr arolwg barn blwyddyn-i-fynd
Y Gymraeg ac Addysg – gwendidau’r ddeddf arfaethedig
Tri etholiad, un neges

Y Gymraeg ac Addysg – gwendidau’r ddeddf arfaethedig

Plant ysgol wrth gyfrifiaduron Plant ysgol wrth gyfrifiaduron
Plant ysgol wrth gyfrifiaduron

Ar 13 Mai cwblhaodd Bil y Gymraeg ac Addysg ei daith trwy’r Senedd gan gael ei basio’n unfrydol, sy’n golygu y daw’n ddeddf yn ystod y misoedd i ddod ar ôl derbyn cydsyniad brenhinol.

Pan ymddangosodd y Bil y tro cyntaf, rhybuddiais y gallai fod yn niweidiol i addysg Gymraeg, am nad oedd sôn ynddo am ysgolion Cymraeg. Roedd y Bil hefyd yn gwyrdroi’r hyn a ddeallwn gan ‘addysg Gymraeg’. Ynddo roedd dysgu’r Gymraeg fel pwnc yn gyfystyr ag ‘addysg Gymraeg’. 

Yn anffodus, mae’r gwendidau hyn yn dal yn rhan o’r Bil yn ei wedd ddiweddaraf. Mae’r Bil yn sôn am ysgolion ‘Prif Iaith – Cymraeg’, ysgolion ‘dwy iaith’ ac ysgolion ‘Prif Iaith – Saesneg’, heb sôn am ysgolion Cymraeg. Dylai ‘ysgolion Cymraeg penodedig’ (h.y. rhai sy’n dysgu pob pwnc neu’r rhan fwyaf trwy’r Gymraeg i bob disgybl) fod yn gategori i’w hyrwyddo ar glawr y Bil.

< Yn ôl
Prif Weinidog Prydain a Phrif Weinidog Cymru yn ymweld â fferm wynt

Yr arolwg barn blwyddyn-i-fynd

Ymlaen >
Gwleidydd yn annerch cefnogwyr

Tri etholiad, un neges