Thema dywyll Thema golau

Y Mab Afradlon – dychweliad Roy Keane

Roedd hon yn fwy na stori newyddion. Roedd yn achos dathlu i’r genedl gyfan. I rai pobl mae o’n arwr, i eraill mae o’n fradwr – ond beth bynnag yw eich barn am Keano, mae o’n gymeriad anferthol, yn bersonoliaeth ryngwladol, ac yn bennaf oll – yn enwedig i ni’r newyddiadurwyr, a’r digrifwyr sy’n ei ddynwared – mae o’n ‘box office’.

Wrth gwrs roedd ’na groeso i’r cyhoeddiad mai Martin O’Neill fyddai rheolwr newydd tîm Iwerddon. Mae’r gwr o Swydd Deri yn uchel ei barch, gyda’r enw o fod yn rheolwr meddylgar, hirben, ond di-lol hefyd.

Ond heb os nac onibai, Roy Keane ydy’r seren. Gyda’i benodiad daeth gobaith newydd a disgwyliadau mawr – nid yn unig am berfformiadau gwell gan y tîm, a chanlyniadau gwell – ond am ddyfyniadau lliwgar, cyffro di-ben-draw, ac ambell i fflach o dân gwyllt. Mae pawb wrth eu boddau efo dychweliad y Mab Afradlon i fyd pêl-droed Iwerddon.

Mae rheolwr tîm pêl-droed Iwerddon wastad yn fwy na rheolwr tîm pêl-droed yn unig. Disgwylir iddo fod yn arweinydd cenedlaethol, ac yn rhyw fath o gynrychiolydd trasig-arwrol gobeithion anobeithiol y wlad ar lwyfan y byd.

Fe gawson ni Jack Charlton, arwr Italia 90, pan gyrhaeddodd y tîm uchelfannau gogoneddus rownd gogynderfynol Cwpan y Byd yn yr Eidal yn 1990. Er nad oedd o’n Wyddel, Jack Charlton oedd brenin Iwerddon ar y pryd. Fe gafodd ei wneud yn ddinesydd anrhydeddus ac mae o’n dal i fod yn hynod boblogaidd yma. Mae llun ohono wedi ei lofnodi yn Mr Snips, ein siop barbwr lleol yn Newbridge. Mae’n debyg fod Jack wedi picio yno un diwrnod am ‘short back and sides’ hanesyddol.

Yn fwy diweddar fe gawson ni Giovanni Trappatoni yn rheolwr ar y tîm cenedlaethol. Roedd yntau hefyd yn boblogaidd iawn, er na ddaeth o â fawr ddim llwyddiant i’r tîm. Er gwaetha’i record fel rheolwr tu hwnt o lwyddiannus gyda sawl tîm mewn gwledydd eraill, roedd Trap yn fwy enwog yn Iwerddon am ei fethiant llwyr i ymdopi â’r Saesneg. Roedd Manuela, ei gyfieithydd, wrth ei ochr bob amser i geisio esbonio ei ddatganiadau – a daeth amryfal ddywediadau annealladwy Trappatoni – yn enwedig yr un am gath wyllt a sach – yn ffefrynnau gan y papurau tabloid. (Nid y ddihareb Gymraeg am anoethineb prynu cath mewn cwd oedd ganddo neu fe fyddwn i o leiaf wedi ei ddeall!) Mae dipyn o golled ar ôl yr hen Drap.

Ac wrth gwrs, yn yr Inter-regnum rhwng Jack a Trap, cafwyd Mick McCarthy. Fe lwyddodd McCarthy i fynd â’r tîm i Gwpan y Byd Japan a Chorea yn 2002.

Ac yno digwyddodd Saipan – y ffrae epig rhwng McCarthy a Keane sy’n dal i hollti’r farn gyhoeddus yn Iwerddon, ac a greodd wrthdaro a ymylai, bron, ar ryfel cartref. Gyda llaw, os oes unrhyw un yn tybio fy mod yn gor-ddweud effaith daeargrynol Saipan, gweler yr erthygl ‘The Saipan Incident’, ar wefan soccer-ireland.com.

Roedd y tîm ar ynys Saipan yn paratoi ar gyfer y gemau cyntaf. Keane oedd y capten, ond roedd o’n anhapus efo’r paratoadau. Yn anhapus iawn. Yn gyntaf oll roedd y chwaraewyr wedi hedfan yno yn y seddi ail ddosbarth er fod swyddogion yr FAI (Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon – grwp o gnafon twp, di-werth yn nhyb Keane) yn mwynhau cysuron y seddi dosbarth cyntaf. Doedd safon y cae ymarfer ddim digon da – roedd fel maes parcio concrid. Doedd y peli na’r offer ymarfer ddim wedi cyrraedd mewn pryd. Ac roedd agwedd pawb yn gwbl annerbyniol – neb yn poeni, pawb yn fodlon derbyn safonau oedd jest ddim digon da. Fe amlinellodd Roy ei gwynion mewn cyfweliad papur newydd.

Roedd Mick McCarthy yn anhapus fod Roy wedi gwneud y fath beth. Yn anhapus iawn. Bu ffrae fawr rhyngddyn nhw gerbron aelodau eraill y tîm yn yr ystafell newid. Ac fe anfonwyd Roy Keane adre.

Syfrdanwyd y genedl. Dyma obeithion Iwerddon yn deilchion. Y capten, a’r chwaraewr gorau yn y tîm, wedi ‘cael ei hel adre’. Neu wedi ‘cefnu ar ei wlad’. Dibynnu ar eich barn. Roedd y wlad i gyd – gan gynnwys pobl heb unrhyw ddiddordeb mewn pêl-droed – yn ochri naill ai gyda Mick neu gyda Roy. Gwahanwyd ffrindiau. Rhwygwyd teuluoedd. Yn ôl y McCarthyaid, roedd Roy yn fradwr, yn meddwl ei fod yn bwysicach na’r tîm a’r wlad. I’r Keaniaid, roedd Roy yn llygad ei le. Roedd Mick yn ffwl oedd ddim yn parchu talent a ddim yn gallu rheoli ei dîm yn iawn.

Cafwyd dadlau ffyrnig. Ond roedd pawb yn dyheu am i Roy ddychwelyd i Saipan. Ymyrrodd y Taoiseach ei hun, Bertie Ahern (sy’n gefnogwr brwd Man Utd) mewn ymdrech i geisio perswadio’r ddau ddyn i gymodi. Mewn cyfweliad teledu emosiynol, gyda’r genedl yn gwylio ac yn gweddïo, erfyniodd gohebydd RTÉ, Tommie Gorman (oedd fel arfer yn ymdrin â’r broses heddwch yn y Gogledd!) ar i Roy ailfeddwl.Ond doedd dim yn tycio.

Yn ystod ei gyfnod fel capten Manchester United ac ar ôl hynny, mae Roy Keane wedi cael perthynas ddigon lliwgar gyda rheolwr ymddeoledig y clwb, Syr Alex Ferguson. Ac fe gafwyd adlais o hen wrthryfel Saipan rai wythnosau’n ôl, pan gyhoeddodd Fergie ei hunangofiant. Mae Syr Alex yn dweud ei fod wedi gorfod cael gwared ar Keane am fod Keane wedi herio ei awdurdod fel rheolwr. Mae o’n dweud bod llygaid Roy, yn ystod un ffrae a gawson nhw, fel mwclis bach du. ‘Roedd golwg frawychus arno,’ meddai Fergie, ‘a dwi’n dod o Glasgow.’

Roedd cynhadledd newyddion Keane ar ôl ei sesiwn ymarfer gyntaf gyda Martin O’Neill a’r garfan yn achlysur yr oedd pawb yn edrych ymlaen ato. Yn ogystal â ffraeo gyda rheolwyr a chwaraewyr, mae Keane hefyd wedi cael sawl ffrae efo newyddiadurwyr. Fe gyhuddodd un o fod yn gwbl ddifanars am fod ffôn yr hac wedi canu nid unwaith ond ddwywaith yn ystod cynhadledd newyddion. (Mae gofyn ‘Ffôn pwy oedd hwnna?’ yn acen Corc yn jôc yn Iwerddon byth ers hynny.)

Ond roedd Roy yn barod ar gyfer y cwestiynau a’r tynnu coes. Roedd o wedi mwynhau’r sesiwn yn fawr, meddai. Roedd y cae chwarae’n grêt; y gwesty a’r bwyd yn lyfli; y chwaraewyr a’u hagwedd yn ffein. Roedd ’na ddigon o offer ymarfer – digon o beli, a’r FAI hyd yn oed wedi cofio dod â bibs. Nid fo oedd y bòs, meddai, Martin O’Neill oedd hwnnw. Ac os oedd pobl yn meddwl ei fod o, Roy, yn ddyn caled, anodd – wel, doedden nhw ddim yn nabod O’Neill. ‘Mae o’n gwneud i fi edrych fel y Fam Teresa,’ meddai Roy.

Mae pawb – hyd yn oed ei elynion – wedi maddau i Keano rwan. Mae o wedi dod ag egni newydd a gobaith newydd i bêl-droed yn Iwerddon. Mae o wedi dod â chyffro a hwyl yn ôl hefyd – ac mae pawb yn aros yn eiddgar am y ffrwydrad sydd i ddod, yn hwyr neu’n hwyrach.

 

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Poenau Tyfu

Ymlaen >

O Ewrop- Siôn Corn Wyn a Phedr Ddu