Thema dywyll Thema golau

Y parhaol a’r amharhaol

erthygl-mehefin-2019-1978-911 erthygl-mehefin-2019-1978-911
Adolygiad o arddangosfa David Nash, ‘Sculpture Through the Seasons / Cerfluniau’r Tymhorau’, yn yr Amgueddfa Genedlaethol Yn un o ystafelloedd cyntaf yr arddangosfa hirddisgwyliedig hon o waith y cerflunydd a’r artist tir David Nash, mae fideo byr sy’n gosod y naws. Dilynwn hanes un o weithiau’r artist – Wooden Boulder, clogfaen pren a gerfiwyd, fel holl waith Nash ers degawdau, ym Mlaenau Ffestiniog – wrth i rymoedd naturiol newid ei safle. Am gyfnod hir mae’r darn o bren yn gorwedd yn heddychlon mewn aber, wedyn mae stormydd yn ei gipio neu’n ei foddi am flynyddoedd, cyn iddo ailymddangos eto. Gwna’r fideo i ni gydymdeimlo â’r clogfaen mewn modd tebyg i’r ffyrdd y mae ffilmiau Pixar yn ein cyflyru i gydymdeimlo â gwrthrychau difywyd, o geir rasio i roliau bao. Cawn ein hunain yn ymboeni amdano wrth iddo wynebu helyntion ac yn gobeithio y daw drwyddi. Dim ond un enghraifft yw ôl-fywyd y darn enwog hwn – ei daith hir a lliwgar y tu hwnt i law yr artist – o’r ffordd y mae holl waith David Nash yn ddibynnol ar bŵer anrhagweladwy natur ar gyfer ei lunio a’i dderbyniad cyhoeddus.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mehefin-2019-1977-910

Tony Carr (1938–2019)

Ymlaen >
Mapiau gyda baneri

'Yr Undeb Werthfawr hon'