Thema dywyll Thema golau

Y Pla a’r clymbleidio rhyfeddol

erthygl-mai-2020-2087-1002 erthygl-mai-2020-2087-1002
Nid oes unrhyw wleidyddiaeth yn digwydd yn y Dáil ar hyn o bryd. Ond o dan yr wyneb, ac wedi ei guddio gan storm y pandemig, mae ’na shifft dectonig yn digwydd yng ngwleidyddiaeth Iwerddon. Am y tro cyntaf ers bron i ganrif, mae’r ddwy brif blaid hanesyddol, Fine Gael a Fianna Fáil, yn paratoi i ffurfio clymblaid. Mae’r hen elynion yn barod i ysgwyd llaw ac eistedd i lawr ochr yn ochr mewn llywodraeth ar y cyd. Flwyddyn yn ôl, hyd yn oed chwe mis yn ôl, byddai’r syniad wedi bod yn anghredadwy. Ond wrth gwrs mae popeth wedi newid ers yr etholiad cyffredinol ym mis Chwefror eleni pan syfrdanwyd pawb gan berfformiad Sinn Féin, a lwyddodd am y tro cyntaf i dorri trwodd ac ennill y ganran fwyaf o bleidleisiau a thua’r un nifer o seddi â’r ddwy brif blaid. Does gan yr un o’r pleidiau ddigon o seddi i ffurfio llywodraeth heb gymorth o leiaf un o’r pleidiau eraill.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mai-2020-2086-1001

BBC Wales yn gwneud cam â’r Cymry

Ymlaen >
erthygl-mai-2020-2088-1003

‘Ni chrwydraf, nid af o dŷ’