Thema dywyll Thema golau

Y portreadau sy’n pontio amser

erthygl-hydref-2020-2150-1052 erthygl-hydref-2020-2150-1052
Adolygiad o’r arddangosfa ‘William Roos a’r Bywyd Crwydrol’, Oriel Môn Roedd hi’n braf bod yn ôl mewn oriel a hithau’n fisoedd ers i mi weld arddangosfa. William Blake yn y Tate ar ddechrau eleni oedd yr achlysur hwnnw, ac wrth edrych yn ôl, rhyfeddaf o gofio’r dyrfa, y gwasgu at ddieithriaid llwyr er mwyn craffu a rhannu ambell sylw ar y lluniau. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae’r protocol wrth fynychu orielau ac amgueddfeydd wedi newid y tu hwnt i bob amgyffred: cadwn bellter, gorchuddiwn ein cegau a syllwn yn unig ac angerddol ar greiriau’r gorffennol. Ond, diolch i’r drefn, nid creiriau sychion mo lluniau William Roos a welir yn Oriel Môn ond, yn hytrach, portreadau o amrywiaeth o unigolion sy’n digwydd perthyn i’r gorffennol, eu cwmni a’u presenoldeb yn pontio amser ac yn cysylltu â ni yn fwy hyderus nag a feiddia ein cyfoeswyr bellach. Efallai y dylid pwysleisio nad oedd bywyd William Roos (1808–78), brodor o Amlwch, yn fwrlwm o gymdeithasu rhwydd ychwaith.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-hydref-2020-2149-1051

Boris a’r Barwn Botham

Ymlaen >
erthygl-hydref-2020-2151-1053

Y delyn deires – oes ‘cwmwl’ ar y gorwel?