Thema dywyll Thema golau

Y Pridd a’r Concrid

Cofiwch, dwi ddim am i neb feddwl fy mod i’n ymdebygu i Ebenezer Scrooge. (A, na, nid ar ôl hwnnw y cafodd Ebeneser, y capel lle cefais fy nghodi yn Niwbwrch ei enwi.) Y gwir ydi fy mod i’n mwynhau’r tymor o ewyllys da gystal â neb, ac yn medru manteisio i’r eithaf ar y gloddesta a’r rhialtwch. Ond… Mae meddwl am gardiau Dolig a’r holl rigmarôl yn fy ngwneud i’n ddyn isel ei ysbryd.

Ers rhai blynyddoedd bellach fyddwn ni ddim yn rhoi anrhegion i neb. Cyfrannwn arian yn hytrach, ar ran cyfeillion a pherthnasau, at y cartref plant yn Haiti lle bu ein mab, Iwan, yn byw am gyfnod. Rydym am anfon llai o gardiau hefyd eleni ac am ychwanegu’r arbedion at y cyfraniad i Haiti. Felly, dymunaf Nadolig Llawen iawn i bawb. (Ffiw! Dyna hynna drosodd.)

Y tro diwethaf y cyferchais i chi, roeddwn i’n sôn fel y bu’n rhaid i Iwan fynychu fy hen ysgol gynradd yn Niwbwrch am rai wythnosau, nes bod Inge a finnau yn gorffen gweithio yn y Gogledd. Soniais hefyd pa mor wahanol oedd agwedd Ysgol Niwbwrch tuag at ddyslecsia Iwan o’i chymharu ag agwedd Ysgol Pwll Coch yng Nghaerdydd. Darparodd Ysgol Niwbwrch yn ddiymdroi’r cymorth arbenigol y bu’n rhaid inni frwydro’n ofer amdano, a hynny am flynyddoedd, ym Mhwll Coch.

Y gwir plaen ydi fod ysgrifennu, darllen a mathemateg Iwan wedi datblygu’n aruthrol yn yr hanner tymor yn unig y bu yn Niwbwrch.

Does gennym, felly, ddim dewis ond codi pac a symud i Niwbwrch – am y flwyddyn nesaf, beth bynnag. Bydd yn gyfle i ni’n tri weld sut y byddwn yn ymdopi go iawn â’r bywyd gwledig.

Mae Iwan, chwarae teg iddo fo, wedi cynefino’n dda iawn ac yn mwynhau pob eiliad o’i fywyd ysgol gan gymryd camau breision ymlaen yn academaidd. Mae llawer o wawdio a chondemnio wedi bod ar Gyngor Sir Ynys Môn – a minnau cyn uched fy nghloch â neb – ond ar sail ein profiad personol o Ysgol Niwbwrch, mae gwasanaeth addysgol y sir ben ac ysgwydd yn uwch na’r ddarpariaeth a geir yng Nghaerdydd.

Mae iaith Iwan yn newid yn araf bach ac yn closio at y Fonwyseg! Ond does wiw cyfeirio at hynny oherwydd, ar hyn o bryd, mae o’n dal i feddwl amdano ei hun fel un o’r ‘Diff’ – y term c?l cyfredol am frodorion Caer-diff. Cafodd hefyd ei ddewis i chwarae rygbi dros ysgolion cynradd Eryri, sy’n cynnwys siroedd Môn, Gwynedd a Chonwy. Mae o’n edrych ymlaen yn eiddgar at y gêm yn erbyn ysgolion Caerdydd a’r Fro. Yn y tîm hwnnw mae rhai o’i ffrindiau a’i gyn gyd-chwaraewyr.

Mae Iwan ar ben ei ddigon ym Môn. Felly hefyd Inge, fy ngwraig. Mae hithau’n dygymod â’r bywyd gwledig yn hynod o dda, ac yn manteisio ar gyfleusterau Môn, megis seiclo a thramwyo’r llwybrau cerdded godidog sydd ar yr ynys.

Yn unol â’r disgrifiad ohonof fel y Dyn Mynd a Dwad, dyna’n union sut mae hi wedi bod arnaf drwy’r hydref. Treuliais y rhan fwyaf o f’amser yn y brifddinas yn ffilmio cyfres arall o Gwaith Cartref i gwmni Fiction Factory ar gyfer S4C.

Ond bellach rydw innau’n sefydlog yn Niwbwrch. Ac mae hynny wedi fy ngorfodi i gwestiynu fy hun. A hynny’n ddwys. Profiad anodd yw ceisio cysoni’r hyn dwi’n mynd i’w ddweud nesaf efo’r hyn a gredais erioed. Er mai fi sydd wastad wedi rhoi Niwbwrch yn gyntaf, Môn yn ail, a Chymru’n drydydd ar restr fy serchiadau daearyddol, y fi sydd yn colli Caerdydd fwyaf. Fi sy’n colli bwrlwm y brifddinas. Fi sy’n colli cyfeillion.

A minnau wedi ymgartrefu yno ers 1972 – dros ddeugain mlynedd, sef y rhan helaethaf o f’oes – doeddwn i ddim wedi sylweddoli cymaint oedd y lle a’i phobol yn ei olygu i mi. Ai Caerdydd dwi’n ei hystyried yn gartref imi bellach?

Dwn i ddim. Wir, dwn i ddim. Neu ai ofn dweud ydw i?

Fe fu gen i dy yn Niwbwrch ers un mlynedd ar ddeg. Ond rhyw fynd a dwad rhwng Caerdydd a Niwbwrch dwi wedi bod yn ei wneud yn y cyfnod hwnnw. Hyd yn hyn, hynny yw…

R?an rydw i’n gorfod ystyried o ddifrif, mewn gwaed oer, y posibilrwydd go iawn o dreulio gweddill f’oes ym mro fy mebyd. Mewn cyfyng gyngor gwirioneddol ac arteithiol anodd, holaf fy hun: ai hynny dwi eisiau ei wneud? O ddifrif?

Waeth imi fod yn hollol onest… Mae Niwbwrch yn ddieithr imi. Dyrniad bychan iawn o bobol dwi’n wybyddus â nhw sy’n dal ar ôl yma. Mae’r olygfa amhrisiadwy a’r awyr yn union yr un fath. Ond mae’r lle yn ddiarth. Hon ydyw’r afon ond yn sicr nid hwn yw’r dwr… gydag ymddiheuriadau i R. Williams Parry.

Mae’r holl dreflan wedi ei Seisnigeiddio, er bod plant yr ysgol i gyd yn siarad Cymraeg. Ond does dim byd i’w cadw nhw yno. Mae’r capel a’r eglwys yn gwanhau, yn enwedig felly’r capel. Mae ei ddyfodol yn bur ansicr.

Nhw oedd canolbwynt y pentre’. Mae neuadd enfawr hardd yng nghanol y pentref, nad oes ond ychydig iawn ohonom yn ei defnyddio. Yr unig weithgaredd a geir yw’r hyn a drefnir gan y mewnfudwyr. Maen nhw’n weithgar iawn, yn cynnal nosweithiau poblogaidd a safonol yn eu canolfan drwy’r Saesneg. Mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod wedi mynychu cyfarfodydd ac wedi siarad yn y lle fy hunan.

Mae’r ddwy garfan ar wahân, yr un Gymraeg a’r un Saesneg. I gadw unrhyw Gymreictod yn fyw rhaid ymladd yn ddyddiol. Ac nid yn erbyn y Saeson bob tro. Dwi’n teimlo’n rhy hen i wneud hynny bellach. Dwi angen ychydig o dawelwch. Mae’r frwydr, mae arnaf ofn, wedi ei cholli. A dyfynnu’r diweddar Athro Hywel Teifi Edwards, mae’r pentref wedi ei ddiberfeddu.

A throi at nodyn llawer iawn mwy gobeithiol, fe gofiwch i mi yn y golofn hon ryw flwyddyn yn ôl gondemnio’n hallt yr adloniant a ddarlledwyd o Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc 2012, ar sail cynnyrch ffiaidd o hiliol rhai o’r cystadleuwyr. Bu dadlau ffyrnig yn y wasg a’r cyfryngau ac ar y rhwydweithiau cymdeithasol am wythnosau lawer.

Rydw i yn dal i gredu fod rhai o eitemau’r llynedd yn annerbyniol iawn, iawn. Condemniwyd fi a ’nhebyg gan lawer iawn o’n cyd-Gymry am ein bod yn arddel peth cywirdeb gwleidyddol. Rhaid cyfaddef nad oeddwn i fy hun yn PC bob amser. Maddeuwch y mwyseirio ond roedd rhai o benodau cynnar Glas y Dorlan yn enghreifftiau truenus o fy niffyg PC wrth gyd-sgwennu’r sgriptiau.

Rhaid i mi ddweud fy mod i’n cefnogi cywirdeb gwleidyddol i’r carn bellach. Cyfrannodd yn helaeth at erlid bwlio o’n cymdeithas. Peth da ydi rhwystro pobol rhag gwneud rhywun sydd yn wahanol iddyn nhw yn destun gwawd, yn unig oherwydd bod y person hwnnw / honno yn dew neu’n denau, am fod lliw eu gwallt yn wahanol, am fod ganddynt nam corfforol neu oherwydd eu rhywioldeb, eu cenedligrwydd neu liw eu crwyn.

Cystadleuwyr a droseddodd yn fy ngolwg y llynedd oedd deuawd o Ddyffryn Cothi. Ond fe wnaethon nhw iawn am eu camwedd eleni. Roedd sgets ddoniol Endaf a Deian yn arbennig iawn. Daeth y ddau ymlaen fel carcharorion wedi eu dedfrydu gan rai fel fi, gynheiliaid cywirdeb gwleidyddol. Roedd deunydd y ddau yn wych, dychan clyfar, ardderchog, fyddai’n gweddu ar unrhyw lwyfan. Roedd perfformiad a dehongliad Endaf a Deian yn rhagorol hefyd – amseru perffaith a chynildeb. Diolch i chi, bois. Yn bendant dyma’r ffordd ymlaen. Gobeithio y cawn weld llawer mwy o’r ddau – ond, plîs, nid fel dau Tsieinî!

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Pan ddaw’n adeg lledu adenydd

Ymlaen >

Mandela – Yr Hen Wr a Ailadeiladodd Genedl