Thema dywyll Thema golau

Y Priordy Melltigedig

Adeiladwyd (os mai dyna’r gair cywir) Priory Hall yn 2007 – un o gannoedd o ddatblygiadau oedd yn tyfu fel madarch o gwmpas y wlad ar y pryd, yn enwedig yn Nulyn. Roedd 189 o fflatiau yn y datblygiad, mewn ardal newydd, ddigymeriad i’r gogledd-ddwyrain o ganol y ddinas. Doedd y fflatiau ddim yn rhad – 250,000 ewro am fflat dwy loft. Cyplau newydd briodi, neu bobol ifanc broffesiynol oedd y rhan fwyaf o’r prynwyr. Roedd Cyngor Dinas Dulyn yn eu plith hefyd. Prynodd y cyngor 26 fflat. (Roedd yn ofynnol cael ‘cymysgedd cymdeithasol’ mewn datblygiadau o’r fath.)

Daeth problemau difrifol i’r wyneb ym mis Rhagfyr 2009, pan symudwyd trigolion y Cyngor allan o’r fflatiau oherwydd pryderon ynglyn â diogelwch. Er enghraifft, doedd dim math o ddefnydd yn y gofod rhwng y waliau i rwystro tân rhag lledu. Doedd dim system larwm tân effeithiol, ac roedd yna broblemau gyda’r nwy a’r trydan. Cafwyd gorchymyn llys i orfodi’r datblygwr ei hun i ymgymryd â’r gwaith o wneud yr adeilad yn ddiogel.

Mae gan ddatblygwr Priory Hall gefndir lliwgar.

Thomas McFeely yw ei enw, dyn 64 oed o Ogledd Derry. Yn gyn-garcharor, cymerodd ran yn streiciau newyn yr IRA. Ar ôl dianc o garchar Portlaoise drwy chwalu wal y carchar efo bom, cafodd ei ddedfrydu i 26 mlynedd yn y carchar yn 1976 am geisio lladd plismon, lladrata o swyddfa bost a bod ag arfau yn ei feddiant.

Wedi iddo gael ei ryddhau o garchar y Maze yn 1989 daeth i Ddulyn gyda 240 punt yn ei boced. O fewn degawd roedd o, rywsut neu’i gilydd, wedi troi yn ddatblygwr llwyddiannus. Roedd o i mewn ac allan o’r Uchel Lys wrth iddo ffraeo gyda datblygwyr eraill, ac yn 2006 bu’n rhaid iddo dalu dirwy o 8.5 miliwn ewro yn dilyn ymchwiliad i’w gwmni gan Fiwrô’r Asedau Troseddol.

Does fawr o neb sy’n adnabod McFeely yn fodlon siarad amdano’n gyhoeddus. Ond yn ôl un, ‘Mae o’n ddyn clyfar ac yn Weriniaethwr i’r carn. Ond mae yna ochr annifyr iawn iddo fo’.

Roedd ’na gwynion wedi bod dros y blynyddoedd am safon isel rhai o ddatblygiadau McFeely, ac wrth i’r cwymp economaidd gyflymu fe chwalodd ei ymerodraeth. Erbyn 2009 roedd ganddo ddyledion o filiynau o ewros, ac roedd y banc yn ceisio meddiannu ei gartref moethus, cyn-lysgenhadaeth yr Almaen ar Ailesbury Road, un o strydoedd drutaf Dulyn.

Felly yn 2009 pan orchmynnwyd McFeely gan Gyngor Dinas Dulyn, ac yna’r Uchel Lys, i wneud gwelliannau helaeth i Priory Hall, doedd ganddo ddim arian i wneud hynny. Fe gytunodd sawl gwaith i wneud y gwaith atgyweirio – gwaith fyddai’n costio 7.3 miliwn ewro – ond ddigwyddodd dim byd. Yn y diwedd, ar 17 Hydref 2011, cafwyd gorchymyn gan yr Uchel Lys i’r Cyngor symud pawb allan o Priory Hall am nad oedd y lle yn ddiogel i bobol fyw ynddo fo.

Dyna pryd y daeth Priory Hall i sylw’r genedl. Roedd hi’n stori frawychus: 249 o bobol, gan gynnwys teuluoedd â phlant bach, yn gorfod gadael eu cartrefi oherwydd esgeulustod y datblygwr – a hefyd oherwydd difaterwch yr awdurdodau.

Am fod y rheolau cynllunio yn Iwerddon mor wan a llac, roedd y rheoliadau diogelwch i gyd yn cael eu gosod adeg y cynllunio. Roedd hi i fyny i’r adeiladwr ei hun i sicrhau bod y gwaith adeiladu yn cyfateb i’r rheoliadau hynny. Wrth gwrs nid pob adeiladwr oedd yn ymddwyn yn gyfrifol a gonest.

Felly roedd pobol Priory Hall heb do dros eu pennau. Serch hynny roedd ganddyn nhw o hyd forgeisi mawr ar fflatiau ansafonol – fflatiau nad oedden nhw’n gallu byw ynddyn nhw nac ychwaith yn gallu eu gwerthu. Ac ar ben hynny i gyd, roedd y banciau yn dal i fynnu ar y cychwyn bod y trigolion yn talu’r morgeisi misol. O ran tegwch â’r banciau, ar ôl sbel fe roddon nhw foratoriwm ar y taliadau.

Gorchmynnwyd Cyngor Dulyn gan y Llys i roi llety i’r trigolion. Fe dreulion nhw fisoedd mewn gwesty cyn i’r Cyngor eu hailgartrefu mewn fflatiau dros dro.

Cafwyd protest ar ôl protest. Dwi’n cofio mynd i fyny i Priory Hall fy hun i wneud adroddiad teledu ar ôl i’r trigolion dreulio eu Nadolig cyntaf mewn gwesty. Dywedodd rhai ohonyn nhw wrtha i pa mor anodd oedd hi i roi brecwast iawn i’r plant, mynd â nhw i’r ysgol, a chael eu hunain i’r gwaith wrth fyw mewn stafell gwesty.

Roedd cadw pawb mewn llety yn costio miliynau i Gyngor y ddinas, felly fe aeth y Cyngor i’r Uchel Lys i ddadlau nad nhw ddylai dalu. Ond doedd neb arall yn fodlon cymryd y bai am y sefyllfa. Gofynnodd y llywodraeth i farnwr geisio cael y Cyngor, y banciau a’r trigolion i ddod i ryw fath o gytundeb. Ond dal i lusgo traed oedd yr awdurdodau.

Yna ar 15 Gorffennaf 2013 digwyddodd y drasiedi a newidiodd bopeth. Ar ôl derbyn llythyr gan fanc KBC yn dweud bod arno fo 17,000 ewro iddyn nhw am ei fod wedi methu talu’r morgais, fe laddodd un o’r trigolion ei hun. Roedd gan Fiachra Daly bartner a dau o blant bach. Yn ôl ei bartner, Stephanie Meehan, y pwysau a’r pryder oherwydd llanast Priory Hall oedd yn gyfrifol am ei hunanladdiad.

Ym mis Medi, fe ysgrifennodd Ms Meehan lythyr at y Taoiseach yn dweud wrtho beth oedd wedi digwydd, ac yn erfyn arno i wneud rhywbeth. ‘Rydw i wedi colli fy nghartref a fy mhartner, ac mae fy mhlant wedi colli eu tad,’ ysgrifennodd. Cyhoeddwyd y llythyr ac aeth Stephanie Meehan ar y radio a’r teledu.

Fe addawodd y Taoiseach wneud rhywbeth – ond roedd o angen mwy o amser. Yn ôl y llywodraeth doedd dim modd gweithredu tra bod y mater gerbron y llysoedd.

Yna datgelodd Ms Meehan ei bod hi wedi derbyn llythyr arall gan KBC, ar ôl marwolaeth ei phartner, yn dal i fynnu cael eu harian. Yn sgil cyhoeddusrwydd ffyrnig, ar 8 Medi fe ymddiheurodd y banc gan ddweud eu bod am ddileu morgais Mr Daly a Ms Meehan yn gyfan gwbl.

Yna fe gyhoeddodd y llywodraeth y bydden nhw’n ceisio datrys y sefyllfa o fewn tair wythnos. Ac ymhen tair wythnos roedd y llywodraeth a’r banciau wedi cytuno ar gynllun i alluogi i’r trigolion i anghofio eu morgeisi a dechrau o’r newydd gyda benthyciadau newydd i brynu cartrefi newydd.

Roedd hi wedi cymryd marwolaeth tad i ddau o blant bach i ddod â’r hunllef i ben.

Ddiwedd mis Medi eleni cafwyd ôl-nodyn swreal i’r drychineb. Ym mis Awst roedd yr Uchel Lys yn Nulyn wedi cyhoeddi Thomas McFeely yn fethdalwr. Meddiannwyd ei gartref drudfawr gan yr awdurdodau a’i werthu. Wrth i blymar weithio yn y ty daeth o hyd i 140,000 ewro wedi eu cuddio tu ôl i’r bath. Galwyd y Biwrô Asedau Troseddol i mewn, a daethpwyd o hyd i 60,000 ewro ychwanegol mewn bagiau plastig yn y stafell molchi. Does neb wedi hawlio’r arian...


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Materion y Mis - Y Gymraeg, Cynllunio a NCT 20

Ymlaen >

Y Gwir Feirniaid