Yn ei ddeuganfed golofn inni, mae’r gwyddonydd yn trafod synnwyr babanod bach o rifau, genyn ag enw Celtaidd sy’n bwysig mewn ymchwil i ganser, robotiaid mewn rasys, deall ffiseg Twll Du, ac ymddygiad twyllodrus modelau AI.
Yn sgil yr holl drafod a fu’n ddiweddar am ganlyniadau profion PISA disgyblion 15 mlwydd oed Cymru (a’r byd), fe’m llygad‑dynnwyd gan erthygl ddechrau mis Gorffennaf am darddiad ein sgiliau mathemateg. Yn wahanol i unrhyw anifail arall, mae gan fabanod newyddanedig synnwyr cynhenid am rifau haniaethol. Darganfuwyd hyn yn gyntaf gan Véronique Izard o Brifysgol Harvard yn 2009. Bellach mewn erthygl ar wefan bioRxiv mae Marco Buiatti a’i dîm ym Mhrifysgol Trento yn yr Eidal wedi egluro sut. Rhoddwyd capiau yn cario electrodau am bennau 21 o fabanod holliach 1–3 diwrnod oed i fesur gweithgaredd gwahanol rannau o’r ymennydd. Yna cyflwynwyd, yr un pryd, gyfres o luniau (smotiau) neu synau (nodau) yn cynrychioli’r rhifau 4 neu 12.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru
